Mae’r cerddor a’r rheolwr cynhyrchu Morus Elfryn, a oedd wedi bod yn perfformio ers dros 50 mlynedd, wedi marw ar ôl cyfnod byr o salwch.

Roedd yn dod yn wreiddiol o Bontsian yn ne Ceredigion, ac fe ddechreuodd chwarae gyda’r band Y Cwiltiaid ar ddiwedd y 1960au, gan ryddhau tair EP a chaneuon fel ‘Rwy’n dy Garu’ a ‘Pan Oeddwn’.

Wedi hynny, aeth yn ei flaen i chwarae llinynnau i fand Y Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog, cyn dechrau canu ar ei liwt ei hun yng nghanol y 1970au.

Yn ystod ei yrfa unigol, fe gyhoeddodd un albwm, I Mehefin (Lle Bynnag y Mae), gyda Recordiau Sain.

Yn yr un cyfnod, fe wnaeth e ffurfio deuawd gyda’i gyfaill a chyd-aelod o’r Dyniadon, Gareth ‘Nerw’ Hughes Jones, gan ryddhau’r EP, Heibio’r Af, hefyd ar label Sain.

Roedd y ddwy record hynny yn cynnwys caneuon adnabyddus fel ‘Marw a Wnaeth dy Dad’ a ‘Rhos-y-Maerdre’.

Fe roddodd y gorau i chwarae’n fyw yn 1985, ond fe ddychwelodd yn 2015 i berfformio ar lwyfan unwaith eto gyda Nerw.

Oddi ar y llwyfan, fe weithiodd gyda’r BBC am flynyddoedd yn gwneud gwaith technegol, a bu’n rheolwr cynhyrchu gyda Ffilmiau’r Nant am ddegawdau gan weithio ar raglenni megis Cmon Midffild a Pengelli.

Wedi hynny, bu’n gweithio tu ôl i’r llenni ar raglen Rownd a Rownd.

Ers blynyddoedd, roedd wedi symud i Waunfawr ger Caernarfon, a bu farw yn Ysbyty Gwynedd yn gynharach yr wythnos hon.

Mae’n gadael ei wraig, Ann, a thri o blant.

‘Cyfraniad mawr i S4C’

Saer coed oedd Morus Elfryn wrth ei grefft, ac wedi iddo symud i’r gogledd roedd yn un o’r rhai wnaeth adeiladu stiwdio newydd Sain.

Wedi hynny, bu ym Mharis efo’r un cwmni yn adeiladu stiwdio yno.

“Roedd o’n gwneud dodrefn arbennig o dda, roedd ganddo fo grefft. Roedd o’n grefftwr da iawn,” meddai Alun Ffred Jones, a fu’n gweithio â Morus Elfryn yn Ffilmiau’r Nant am tua ugain mlynedd.

Ar ôl dychwelyd o Baris y dechreuodd weithio gyda Ffilmiau’r Nant efo Wil Aaron, perchennog y cwmni, a buodd yno am tua 30 mlynedd.

“Roedden ni’n rhannu ystafell, ac roedd o’n ddyn hyfryd iawn, iawn,” meddai Alun Ffred Jones wrth golwg360.

“Personoliaeth agored, annwyl iawn, iawn – ar wahân i pan fyddech chi’n ei groesi fo.

“Roedd o’n rheolwr cynhyrchu uchel iawn ei barch gan y criw technegol, a fuodd o’n gweithio wedyn ar bob un o’r cyfresi a’r dramâu wnes i, o Pengelli i Cmon Midffild.

“Mi wnaeth gyfraniad mawr, dw i’n meddwl, i S4C oherwydd roedd o mor uchel ei barch fel trefnydd, ac roedd y criw wrth eu boddau efo fo.

“Roedd ganddo fo safonau uchel iawn yn beth roedd o’n disgwyl i bobol eu gwneud, ac os oedd hynny’n iawn, roedd o’n iawn.

“Roedd yna lot o barch iddo fo yn y diwydiant fel rheolwr cynhyrchu. Felly cof annwyl iawn, chafon ni erioed air croes, dw i ddim yn meddwl, yn yr holl amser yna.

“Mae gen i ddyled fawr bersonol iddo fo, achos bod o wedi cario cymaint o gyfrifoldeb pan roeddwn i, efallai, yn gwneud pethau eraill.

“Mae gen i atgofion da iawn am y cyfnod hwnnw.

“Mi wnaeth gyfraniad mawr i S4C yn y degawdau cyntaf yna, achos bod o mor uchel ei barch gan griwiau. Mi wnaeth o’r gwaith oedden ni’n ei wneud yn hawdd iawn oherwydd hynny.”

‘Personoliaeth hyfryd’

Roedd Morus Elfryn yn chwaraewr rygbi da iawn, ac yn chwarae fel bachwr, mae’n debyg, i dîm yr ysgol yn Llandysul.

“Pan es i i Landysul, roedden nhw’n dal i sôn amdano fo flynyddoedd wedyn,” meddai Alun Ffred Jones.

“Ers ymddeol, mi roedd o wedi ailafael yn y busnes gwaith coed a fydda fo’n gwneud dodrefn ac ati ac yn eu gwerthu nhw mewn ffeiriau, ac ar y we, ac yn y blaen.

“Achos bod o mor gysáct, a dw i’n meddwl bod yr hyfforddiant yna i’w weld yn ei waith o hefyd, roedd o eisiau i bethau fod yn iawn felly roedd o’n disgwyl i bawb fod yn gweithio i’r safonau uchaf.

“Personoliaeth hyfryd, ac roedd acen de Ceredigion yn dal efo fo, ac roedd o’n meddwl yn uchel iawn o’i ardal, Talgarreg a Phontsian.”

‘Colled fawr’

Roedd yr actor a’r digrifwr Mici Plwm wedi byw gyda Morus Elfryn am gyfnod yng Nghaerdydd pan oedden nhw’n iau.

“Oedd o’n dipyn o ges, a’n barod iawn i chwerthin,” meddai wrth golwg360.

“Mi oedden ni’n dipyn o chums!

“Roedd yna firi yng Nghaerdydd bryd hynny achos oedd y sîn bop yno yn dda iawn, iawn.

“Oedd ganddo lais unigryw, ac mae nifer o’i ganeuon o yn aros yn y cof.

“Mae hi’n golled fawr.”

Mae label Sain wedi talu teyrnged iddo ar eu tudalen Twitter.

“Trist oedd clywed i ni golli Morus Elfryn,” medden nhw.

“Coffa da amdano a’i ganeuon a diolch am ei gyfraniad i’r sîn gerddorol yng Nghymru.”

Logo Golwg360

Morus Elfryn yn dychwelyd i’r llwyfan… wedi 30 mlynedd

Morus Elfryn heb ganu’n gyhoeddus er 1985