Albwm 'I Mehefin (Lle Bynnag y Mae', Morus Elfryn
Y penwythnos hwn, fe fydd un o gantorion poblogaidd y sin Gymraeg yn dychwelyd i’r llwyfan i ganu… wedi 30 mlynedd.

Yn Theatr Felinfach nos fory (Sul, Mawrth 1), fe fydd Morus Elfryn yn rhan o noson o adloniant sydd wedi’i threfnu i ddathlu Gwyl Ddewi.

Y tro diwethaf i Morus Elfryn ganu ar lwyfan oedd yn 1985. Bydd ef yn Nyffryn Aeron ynghyd a Gareth Hughes Jones oedd hefyd yn cyfeilio iddo yn y cefndir flynyddoedd yn ôl.

Llais unigryw

Meddai Cen Llwyd, trefnydd y noson: “Mae gan Morus Elfryn lais unigryw iawn ac rwyf yn ofnadwy o falch ei fod yn dod yno i ganu a hynny wedi i gymaint o amser fynd heibio ers iddo ganu’n gyhoeddus.

“Mae ei wreiddiau yn ddwfn iawn gyda’r Undodiaid yng nghapel Llwynrhydowen yn Nyffryn Cletwr. Roedd ef a dau Undodwr arall sef y diweddar erbyn hyn Tom Davies Jones a chyfaill arall sef John Jones yn aelodau o’r grŵp Y Cwiltiaid.

“Yn ddiweddarach fe aeth Morus Elfryn ymlaen am rhai blynyddoedd i ganu ar ei liwt ei hunan. Bu hefyd am gyfnod yn aelod o’r grŵp unigryw Dyniadon Ynfyd Hirfelin Tesog.”