Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi ymateb i feirniadaeth ynghylch diffyg amrywiaeth mewn llyfrau plant yng Nghymru drwy ddweud eu bod nhw’n cymryd camau cadarnhaol i gyflawni hynny, ond yn gwybod bod mwy o waith i’w wneud.
Daw eu sylwadau wedi i’r awdur Jessica Dunrod, yr awdur du cyntaf o Gymru i ysgrifennu llyfr plant, ddweud bod angen i sefydliadau wneud llawer mwy i sicrhau cynhwysiant a chynrychiolaeth.
Y llynedd, sefydlodd Jessica Dunrod gronfa AwDuron er mwyn ariannu cyfieithiadau Cymraeg o lyfrau plant gan awduron du.
Datrysiad byrdymor oedd hynny, meddai.
‘Cynrychioli ac adlewyrchu Cymru’
Wrth ymateb i’r feirniadaeth, dywed y Cyngor Llyfrau eu bod nhw’n credu’n angerddol fod cynrychiolaeth ym maes llenyddiaeth Gymraeg yn bwnc pwysig sydd angen ymateb pwrpasol gan y sector cyfan.
“Rydyn ni eisiau gweld mwy o awduron a chynnwys sydd yn cynrychioli ac yn adlewyrchu Cymru a bod darllenwyr yn gweld eu hunain mewn llyfrau a straeon,” meddai llefarydd.
“Rydyn ni’n cymryd camau cadarnhaol i gyflawni hynny, ond rydyn ni’n gwybod bod yna waith dal angen ei wneud ac rydym wedi ymrwymo i wneud mwy.
“Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor Llyfrau’n mynd i’r afael â’r sefyllfa mewn tair ffordd:
- Cynrychiolaeth mewn llyfrau plant. Rydyn ni wedi gweithredu i gynyddu amrywiaeth mewn llyfrau plant a noddwyd gennym ni. O arolwg syml wnaeth y Cyngor yn ddiweddar rydym yn falch iawn o ddweud bod tua 70% o’r llyfrau stori a llun i’r plant lleiaf a noddwyd gennym ni yn cynnwys lluniau cymeriadau o wahanol gefndiroedd ethnig. Tra bod llawer o’r llyfrau hynny wedi eu haddasu o’r Saesneg rydym hefyd yn falch o gefnogi llyfrau gwreiddiol megis Sw Sara Mai, 10 Stori o Hanes Cymru a Genod Gwych a Merched Medrus sy’n cynnwys cymeriadau ac unigolion o gefndiroedd ethnig amrywiol. Rydym yn falch iawn hefyd o fod wedi cefnogi cyfres Y Pump weithiodd gydag awduron newydd i greu cyfrolau sy’n driw i amrywiaeth o brofiadau bywyd gwahanol o ran abledd ac amrywiaeth hil. Dros y tair blynedd diwethaf mae 10 o’r 18 llyfr a gyrhaeddodd restrau byr Cymraeg Tir na n-Og wedi ymwneud ag amrywiaeth mewn rhyw ffordd. Mae’r rhestrau yn cynnwys Y Castell Siwgr, Pobl Drws Nesa, Byw yn fy Nghroen, #Helynt ac Y Pump.
- Cefnogi’r diwydiant i ddatblygu awduron. Rydyn ni’n cefnogi cyhoeddwyr i fuddsoddi mewn mwy o weithiau gwreiddiol Cymraeg gan awduron o gefndiroedd amrywiol. Er nad ydyn ni’n gallu ariannu awduron yn uniongyrchol, mae gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu awduron Cymraeg sy’n dod o gefndiroedd amrywiol yn ganolog i’n strategaeth dros y blynyddoedd nesaf. Er enghraifft, ar hyn o bryd, rydyn ni’n gweithio gyda sefydliadau eraill megis S4C a Llenyddiaeth Cymru ar gynlluniau i gyflawni hyn. Rydyn ni’n ariannu cwrs yn Nhŷ Newydd ym mis Ebrill ar gyfer awduron sy’n teimlo bod eu profiadau nhw yn cael eu tangynrychioli yn y byd cyhoeddi Cymraeg. Rydyn ni wedi sicrhau bod y cwrs yma am ddim i’r awduron, gyda’r Cyngor Llyfrau yn talu am eu lle a Llenyddiaeth Cymru yn rhedeg y cwrs. Rydym hefyd ar fin cyhoeddi pwy fydd yn elwa ar y gronfa Cynulleidfaoedd Newydd a hysbysebwyd yn ddiweddar, fydd yn gweld nifer o gynlluniau fydd yn edrych ar ddatblygu awduron a chryfhau pob math o gynulleidfaoedd amrywiol.
- Cyfleoedd i gyfieithu a darparu llyfrau llesiant. Mae rhaglen Darllen yn Well yn bartneriaeth gyda’r Reading Agency ac mae wedi sicrhau dros 60 o lyfrau Cymraeg i’r farchnad ar bynciau fel Dementia, Iechyd Meddwl, Iechyd Meddwl Plant ayb. Mae’r Reading Agency yn paratoi rhestr o lyfrau adnabyddus Saesneg (er enghraifft Michael Rosen’s Sad Book) ac mae’r Cyngor Llyfrau yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn cael eu cyfieithu i’r Gymraeg a’u cyhoeddi gan gyhoeddwyr yng Nghymru. Rydym ar fin cyhoeddi’r bedwaredd raglen, ar gyfer Oedolion Ifanc. Yn ogystal â hyn rydyn ni’n cefnogi cyhoeddwyr i gyhoeddi nifer dda o lyfrau tebyg y tu allan i gynllun Darllen yn Well, yn addasiadau ac yn llyfrau gwreiddiol.
‘Cyfnod o drawsnewid’
Wrth ymateb i farn Jessica Dunrod am y ddarpariaeth bresennol a’r diffyg cymhelliant i gyfieithu llyfrau plant i Gymru, noda’r Cyngor Llyfrau fod dros 50% o lyfrau Cymraeg i blant sydd wedi’u noddi gan y Cyngor Llyfrau yn dal i gael eu cyfieithu – tua 50 teitl y flwyddyn.
“Mae hynny’n golygu bod cyhoeddwyr Cymru yn cael dewis o blith y llyfrau gorau yn y byd cyhoeddi Saesneg (a rhai o ieithoedd eraill y byd), i’w darparu i ddarllenwyr ifanc Cymraeg,” meddai.
Dywedodd Jessica Dunrod wrth golwg360 mai’r her fwyaf wrth sefydlu prosiect AwDuron oedd cwffio yn erbyn sefydliadau fel y Cyngor Llyfrau, “a wnaeth wrthod cyfrannu 50c tuag at broblem y maen nhw, dw i’n credu o fy ngwaith ymchwil, yn ei hachosi”.
“Mewn ymateb i’r pwynt am Gronfa AwDuron – mae’r Cyngor Llyfrau yn dosbarthu arian cyhoeddus i gyhoeddwyr ar ran Llywodraeth Cymru trwy’r rhaglen grantiau, sydd yn gweithredu o dan reolau teg i bawb ac sydd yn agored i archwiliad,” meddai Cyngor Llyfrau Cymru wrth ymateb i hynny.
“Dydyn ni ddim yn gallu rhoi arian cyhoeddus fel rhodd arian parod ar blatfformau megis GoFundMe.
“Fodd bynnag, rydym wedi egluro i Jessica, fel unrhyw gyhoeddwr arall fyddai â diddordeb, bod gennym nifer o gronfeydd sy’n bodoli i gefnogi cyhoeddi llyfrau ac y bydden ni’n croesawu cais am grant. Yn wir mae’r grantiau wedi eu haddasu i flaenoriaethu ceisiadau gan gyhoeddwyr ar ran awduron o gefndiroedd ethnig amrywiol neu am lyfrau sy’n gwella cynrychiolaeth yn gyffredinol.
“Rydym yn falch iawn fod Jessica wedi derbyn ein cynnig i ariannu mentor i’w chefnogi hi a’i busnes i wneud ceisiadau o’r fath, ac mae’r gwaith hwn bellach ar y gweill.
“Mae croeso i unrhyw un sy’n anghyfarwydd â’r grantiau cyhoeddi i gysylltu â ni i weld sut y gallwn ni hwyluso pethau iddynt hwythau hefyd.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi herio Cymru i gyd i fod yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030 ac rydyn ni’n falch iawn i fod yn rhan o’r daith yma.
“Fel llawer o gyrff cyhoeddus, rydyn ni’n gwybod ein bod ni mewn cyfnod o drawsnewid wrth i ni weithredu i greu’r newid sydd ei angen. Rydyn ni’n barod iawn i gymryd unrhyw gamau sydd yn symud y gwaith pwysig hwn yn ei flaen.”
‘Gwaith i’w wneud’
Dywed Llenyddiaeth Cymru fod diffyg cynrychiolaeth o ran hil a ethnigedd yn y sector yn “destun pryder” iddyn nhw hefyd.
“Mae Cynrychiolaeth a Chydraddoldeb yn un o’n prif flaenoriaethau, a’n nod yw datblygu sector sy’n cefnogi mynediad teg i bawb drwy fynd i’r afael ag anghydraddoldebau hanesyddol a strwythurol a rhoi llwyfan i leisiau amrywiol,” meddai Llenyddiaeth Cymru.
“Yn anffodus, nid yw hon yn broses sydyn.
“Mae llawer o waith i’w wneud yng Nghymru a thu hwnt i adnabod a chwalu’r pethau hynny’n sy’n rhwystro awduron o liw rhag cyflawni eu huchelgeisiau llenyddol.
“Gorchwyl Llenyddiaeth Cymru yw datblygu llenyddiaeth fel ffurf gelfyddydol, gyda ffocws penodol ar ddatblygu awduron. Gan hynny, gall gymryd peth amser i rai o’n cynlluniau a’n ymyraethau ddwyn ffrwyth.
“Mae nifer o sefydliadau llenyddol eraill yn rhannu ein pryder am ddiffyg cynrychiolaeth o fewn y sector, ac rydym yn cydweithio ar gynlluniau hir a byr dymor i geisio mynd i’r afael â hyn, a sicrhau fod ein llên yn adlewyrchu amrywiaeth cyfoethog y Gymru gyfoes.”
‘Angen mwy o gefnogaeth’
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n cydnabod fod angen mwy o gefnogaeth i sicrhau bod ysgolion a dysgwyr yn gallu cael mynediad at lyfrau Cymraeg, gan awduron duon ac o leiafrifoedd ethnig, ac sy’n cynnwys cynrychiolaeth gref ac amrywiaeth o gymeriadau a phrofiadau.
“Rydym yn cymryd camau i greu diwylliant o wrth-hiliaeth sy’n cael ei ymgorffori ar draws ein system addysg,” meddai llefarydd.
“Bydd y Cwricwlwm i Gymru, a fydd yn dechrau cael ei gyflwyno ym mhob ysgol gynradd o fis Medi eleni ymlaen, yn ei gwneud yn orfodol i addysgu hanes a phrofiadau pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y cwricwlwm.
“Bydd hyn yn sicrhau bod pobl ifanc yn datblygu dealltwriaeth o hunaniaeth pobl eraill ac yn gwneud cysylltiadau â phobl, llefydd a hanes mewn mannau eraill yng Nghymru a ledled y byd.
“Rydym wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth ein gweithlu addysgu i gefnogi ein dysgwyr yn well, gan gynnwys ar lefel uwch arweinyddiaeth.
“O eleni ymlaen, bydd cymhelliant ariannol ychwanegol yn cael ei gyflwyno hefyd i ddenu mwy o athrawon dan hyfforddiant o leiafrifoedd ethnig.”