Mae côr o Gaernarfon wedi amddiffyn eu penderfyniad i gymryd rhan ym mherfformiad Amdanom Ni yn sgil ei gysylltiad â ‘Gŵyl Brexit’.

Bydd Côr Dre, ynghyd â Chôr Eifionydd a Chôr Kana, yn cymryd rhan yn y digwyddiad ar Faes Caernarfon ddiwedd yr wythnos hon (Mawrth 30 – Ebrill 5).

Amdanom Ni yw’r digwyddiad cyntaf mewn cyfres o brosiectau dros y Deyrnas Unedig sy’n rhan o ŵyl UNBOXED: Creativity in the UK, yr enw newydd ar ‘Festival UK 2022’.

‘Gŵyl Brexit’ oedd yr enw answyddogol gwreiddiol ar yr ŵyl, sy’n seiliedig ar syniad Theresa May i ddathlu creadigwrydd Prydain ar ôl Brexit.

Er hynny, mae trefnwyr yr ŵyl wedi gwrthod y label ‘Gŵyl Brexit’, gan ddweud ei bod hi’n “ddathliad arloesol o greadigrwydd dros y Deyrnas Unedig”.

Mae Aelodau Seneddol wedi beirniadu’r ŵyl, gyda Phwyllgor Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan, yn dweud yn ddiweddar ei fod yn wast o arian cyhoeddus.

Yn ôl y pwyllgor, mae buddsoddiad o £120m yn yr ŵyl, sy’n para wyth mis, yn “ddefnydd anghyfrifol o arian cyhoeddus o ystyried cyfaddefiad Llywodraeth [y Deyrnas Unedig] nad yw’n gwybod beth yw ei bwrpas”.

‘Gŵyl gwg ein gorthrymydd’? 

Mae rhai ar y cyfryngau cymdeithasol wedi cwestiynu’r penderfyniad i groesawu sioe Amdanom Ni i’r dref oherwydd y cysylltiad gwreiddiol gyda Brexit.

Yn eu plith mae’r bardd Siôn Aled sy’n cyfeirio ati fel ‘Gŵyl sy’n chwil ar gywilydd – gwŷl gwagedd/ Gŵyl gwg ein gorthrymydd…’

Ar dudalen Facebook y côr, dywedodd Cadeirydd Côr Dre, Seiriol Dawes-Hughes, bod eu pwyllgor wedi cael sicrwydd gan y trefnwyr nad oes yna ongl yn ymwneud â Brexit yn rhan o’r perfformiad.

“Mae Côr Dre yn edrych ymlaen yn fawr iawn at gymryd rhan yn nigwyddiad ‘Amdanom Ni’ ar y Maes yr wythnos nesaf. Mae’r côr wedi bod yn ymarfer ers misoedd ar gyfer y perfformiadau, mewn sioe na welwyd ei thebyg erioed o’r blaen yng ngogledd Cymru,” meddai.

“Fe ystyriodd pwyllgor y côr yn ofalus cyn derbyn y cynnig i gymryd rhan yn y prosiect. Fe gawson ni sicrhad gan y trefnwyr nad oedd unrhyw “British Unionist / Brexit / One Nation slant in any part of the performance.” Fe wnaethon ni ymchwil i’r cyfansoddwr a’r trefnwyr a gweld nad oedden nhw’n gefnogol o Brexit mewn unrhyw fodd.

“Mae’r trefnwyr wedi parchu’r iaith Gymraeg ar bob cam o’r daith, gan gael cyfieithiad safonol o’r darn i’r Gymraeg i ni ei ganu.

“Mae’r darn ei hun yn dathlu esblygiad y blaned o’r Big Bang hyd heddiw ac yn dathlu’r hyn sy’n ein huno ni, rhwng cenedlaethau a chenhedloedd, i’r gwrthwyneb llwyr i ysbryd arwahanrwydd Brexit. Yn wir, y feirniadaeth o’r prosiect gan rhai oedd nad oedd y prosiect yn ddigon Prydeinig ei naws.

“Mae’r prosiect hwn wedi buddsoddi yng ngogledd Cymru – yn cefnogi’r corau, stiwdio recordio, gweithdai i’r corau ac mewn ysgolion lleol, heb sôn am y bwrlwm fydd yn cael ei greu yng nghanol dre pan fydd y sioe yn digwydd.

“Yn bersonol, dw i’n croesawu unrhyw fuddsoddiad yn y celfyddydau yng Nghymru, rhywbeth sydd angen tipyn mwy ohono.

“Un o agweddau gorau’r prosiect i ni fel Côr Dre yw ein bod ni wedi dod ynghyd â dau gôr arall lleol i ymarfer a chydganu – Côr Eifionydd a Chôr Kana – gan greu cerddoriaeth a gwneud ffrindiau. Wedi cyfnod hir o beidio ymarfer na pherfformio, rydyn ni fel côr o’r diwedd yn cael canu gyda’n gilydd a pherfformio yn ein tref, ac yn edrych ymlaen yn arw at wneud hynny.

“Caernarfon yw’r unig le yng Nghymru lle fydd y sioe yn digwydd ac mae hi wir yn mynd i fod yn sioe werth ei gweld. Gobeithio y gwnewch chi ddod i weld y perfformiad a mwynhau y sioe am beth ydi hi – darn cerddorol sy’n dathlu’r hyn sy’n eu uno ni a sioe oleuadau wefreiddiol – a’n cefnogi ni fel Côr Dre.”

Mae Côr Eifionydd a Chôr Kana’n cefnogi’r datganiad.

Amdanom Ni

Y paratoadau ar gyfer Amdanom Ni ar Faes Caernarfon

Mae gwaith paratoi wedi dechrau ar y Maes yng Nghaernarfon yn barod, ac yn ôl gwefan Amdanom Ni, bydd safle’r sioe ar agor i’r cyhoedd bob dydd am a gyda’r nos  bydd y safle’n trawsnewid er mwyn arddangos Amdanom Ni – sef “arddangosfa amlgyfrwng a pherfformiad byw yn yr awyr agored”.

Mae fersiynau o Amdanom Ni, neu About Us, yn cael eu cynnal yn Derry, Hull a Luton hefyd dros y misoedd nesaf.

Cymru Creadigol, ar ran Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, sy’n gyfrifol am gyfraniadau Cymreig yr ŵyl.

Cafodd tîm creadigol Galwad: A Story From Our Future, sef cyfraniad Cymru i’r ŵyl, ei ddatgelu dros y penwythnos.

Bydd y prosiect hwnnw, sef stori “aml-lwyfan, amlieithog” yn cael ei hadrodd dros gyfnod o wythnos ym mis Medi, gyfrwng drama deledu, ar blatfformau digidol, a digwyddiadau byw mewn tri lle – Abertawe, Merthyr Tudful a Blaenau Ffestiniog.