Mae clasur Dafydd Iwan, ‘Yma o Hyd’, wedi cyrraedd criw o fyfyrwyr addysg yn Rwanda.

Cafodd fideo o griw o fyfyrwyr o goleg ymarfer dysgu yn Rusizi yn canu’r gân, sydd wedi dod yn anthem answyddogol i dîm pêl-droed Cymru yn ddiweddar, ei rhannu ar Twitter yn ddiweddar.

Dyddgu Hywel, Uwch Ddarlithydd Addysg Gynradd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd a chyn-chwaraewr rygbi Cymru, wnaeth gyflwyno’r gân i’r myfyrwyr yn ystod ymweliad â’r coleg drwy ei gwaith.

Mae gan y brifysgol gysylltiad efo’r coleg ac ysgol gynradd yn Rusizi ers tua saith mlynedd, a thrwy ymweliadau a chydweithio maen nhw’n adeiladu perthynas ryngwladol, yn rhannu profiadau ac yn helpu ei gilydd, meddai Dyddgu Hywel.

Yn ôl Dyddgu Hywel, mae’r myfyrwyr yn awyddus i gefnogi tîm Gareth Bale pan ddaw hi’n amser iddyn nhw fynd i Qatar ar gyfer Cwpan y Byd.

Datblygu perthynas ryngwladol â’r coleg yn Rusizi

“Cyd-ddigwyddiad ydy hynny achos roedden ni’n mynd allan i’r ysgolion ac roedden ni’n trio dysgu ychydig bach o Gymraeg iddyn nhw,” meddai Dyddgu Hywel wrth golwg360.

“Dydyn ni ddim wedi mynd allan yna’n arbennig i ddenu cefnogwyr pêl-droed!

“Ymweliad drwy’r brifysgol, dyna oedd y prif bwrpas, ond roedden nhw’n gofyn cwestiynau i ni fel darlithwyr a dyma un o’r myfyrwyr yn gofyn i fi a Nick [Young, Uwch Ddarlithydd Addysg Gynradd arall ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd] i ganu.

“Dyma nhw’n dweud ‘Awn ni gyntaf’, ac fe wnaeth yna ferch ganu cân, gaethon ni ddeuawd, ac roedden nhw’n anhygoel.

“Roedd gen i ryw syniad yn fy mhen y bysa hi’n cŵl dysgu cân Gymraeg iddyn nhw, ac ‘Yma o Hyd’ ddaeth i’m mhen i gyntaf achos dw i wrth fy modd yn dilyn pêl-droed Cymru.”

‘Rhannu diwylliant’

Y recordiad oedd y pedwerydd tro iddyn nhw ganu ‘Yma o Hyd’, eglura Dyddgu Hywel.

“Roedden nhw mor dalentog o ran pigo pethau fyny’n sydyn. Doedd fi a Nick ddim yn meddwl dim byd llawer ohono fo, fe wnaethon ni ffilmio fo, a’i roi o ar Twitter ac mae o wedi cael 18,000 o views dw i’n meddwl,” meddai.

Dyddgu Hywel a rhai o’r myfyrwyr yn Rusizi

“Mae’n dda rhannu ychydig bach o ddiwylliant Cymraeg ac ychydig o’r Gymraeg efo nhw, wedyn roedden nhw’n dysgu Kinyarwanda i ni, sef eu hiaith nhw.”

Roedd y myfyrwyr wrth eu boddau â phêl-droed, a oedd yn fwy o reswm i ganu ‘Yma o Hyd’, meddai Dyddgu Hywel.

“Fe wnaethon ni eu hybu nhw i gofio cefnogi Cymru pan ddaw Cwpan y Byd. Roedden nhw i gyd yn cefnogi Arsenal, achos mae yna gyswllt rhwng Visit Rwanda ac Arsenal.

“Ond roedd yna ambell un wedi clywed am Glwb Dinas Caerdydd, ambell un wedi clywed am Gareth Bale.”