Roedd Gohebydd Celfyddydau Golwg ymysg y cyntaf i weld dramâu newydd Aled Jones Williams ar gyrion Caernarfon neithiwr (nos Lun, Gorffennaf 11). Cafodd y tair dramodig y parch maen nhw’n ei haeddu gan griw glew o actorion, yn cynnwys Cefin Roberts, Maureen Rhys, John Ogwen, a Valmai Jones, yn ôl Non Tudur. Dyma ei hargraffiadau o Lleisiau…
Mae hi’n ddigon posib fod torf fach ar stad ddiwydiannol ar gyrion Caernarfon nos Lun wedi cael y fraint o wylio un o’r cynyrchiadau theatr gorau erioed yn yr iaith Gymraeg.
Cefin Roberts oedd ‘Y Dyn Gwyn’ mewn monolog newydd gan Aled Jones Williams, ac roedd yn ei berfformio yn uned cwmni Bara Caws ar stad ddiwydiannol Cibyn o flaen torf fach a’r wasg. Hon oedd y cyntaf o dair drama fer ar y noson, y tair yn cael eu perfformio gan rai o fawrion byd y theatr (ac i gyd yn sylfaenwyr gwreiddiol cwmni Bara Caws yn y 1970au neu wedi gweithio gyda’r cwmni).
Roedd Aled Jones Williams wedi sgrifennu’r tair drama fer yn arbennig ar gyfer yr actorion enwog yma. Y ddwy ddrama arall oedd ‘O. Myfanwy’ gyda Valmai Jones yn y brif ran, a Dyfan Roberts fel y llais; a ‘Mynd i’r Wal’ gyda Maureen Rhys a John Ogwen, a oedd wedi cael ei ffilmio ymlaen llaw ond a oedd yn gynhyrchiad yr un mor flasus â’r perfformiadau byw.
Noson Cefin Roberts oedd hi, fodd bynnag. Dywedodd yr actor mewn sgwrs ar ôl y perfformiad mai dyma’r tro cyntaf iddo actio ar lwyfan ers 32 mlynedd. Roedd Betsan Llwyd, Cyfarwyddwr Artistig Bara Caws, yn amau ei bod hi’n fwy na hynny, ac mai ei ddrama ddiwethaf oedd yr un y buodd hi’n perfformio ynddi gydag e yn Eisteddfod Llambed yn 1984. Os hynny, doedd e ddim wedi troedio ar lwyfan i actio ers 38 mlynedd.
Wrth gwrs, nid yw wedi bod yn ddyn segur – ef yw un o sylfaenwyr Theatr Berfformio Glanaethwy ym Mangor, a bu’n Gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru. Mae hefyd wedi gwneud gradd mewn Sgrifennu Creadigol.
Wal frics blaen oedd y set, wedi ei phaentio’n glaerwyn. Roedd Cefin yn sefyll, neu’n swatio, o’i blaen hi mewn siwt wen, het wen, menig gwynion, a’i wyneb yn drwch o golur gwyn.
Gwyn y gwêl
Mae gwynder yn thema amlwg yn ‘Y Dyn Gwyn’: gwynder dilychwin y wyneb cyhoeddus y mae pob dyn a menyw yn ceisio’i roi i gymdeithas, y gwyngalchu sy’n digwydd gan genedl y Cymry yn ddiarwybod iddi, gwynder byd ysbytai a chanser, a gwynder y cydwybod glân, clir. Roedd y gwynder yma yn gwasgu ac yn llethu’r Dyn Gwyn gyda phob golygfa, a’r actor corfforol fedrus yn gallu mynegi hynny i’r dim gyda phob plyg ac ystum.
Elfen amlwg o’r ddrama oedd y dechneg o ‘gamu allan’, lle’r oedd y Dyn Gwyn yn sydyn yn llamu allan o’r olygfa ‘naturiolaidd’ (i gyfeiliant ryw sain wylofus) ac yn ailymddangos mewn tywyllwch ag un sbot o olau ar ei wyneb, yn barod i ddarogan gwae am y byd. Mae Aled Jones Williams wedi cyfaddef ei fod wedi “dwyn” y dechneg theatraidd yma oddi wrth y dramodydd Caryl Churchill, ar ôl iddo fod yn gweld ei drama hi yn y Royal Court, Escaped Alone.
Yn y golygfeydd yma, roedd y cymeriad yn disgrifio ryw erchyllterau mawr, yn disgrifio byd ôl-apocalyptaidd lle mae pob pentref a thref dan ddŵr, gwiberod gwenwynig yn afon Menai, a chopaon Eryri ar dân. Yma, mae’r dweud yn fwy llenyddol neu ffurfiol.
Yna, yr un mor sydyn, rydyn ni’n dychwelyd at y wal, a hanes ysgariad poenus, a’r Dyn Gwyn â’i ymysgaroedd a’i gydwybod yn gwingo mewn poen. Ofer yw’r ymdrechion i gadw’r llew gwyn a oedd yn ‘breid o’plês’ gan ei dad ar y ddresel yn gyfan.
Artaith yr iaith
Mae’r ddresel yn ymddangos yn yr ail ddrama, ‘O. Myfanwy’. Dyma ddynes sy’n cael ei harteithio gan arfau fel yr ‘efail bedoli’, ac arfau swynol tebyg, yn ei choban. Ond dydy’r artaith hwnnw yn ddim i gymharu ag artaith clywed Cymraeg bratiog y dyddiau yma. Ar y wal o’i blaen, mae ei thystysgrifau – arholiad piano, ail am adrodd yn yr Urdd, gwobr gyntaf am ddangos ei cheiliog bantam mewn sioe, a’r ceiliog bantam wedi ei stwffio mewn cist wydr yn y gornel. Dyma berfformiad arbe
nnig gan un o’n hactorion mwyaf dawnus.
Mae darllediad ffilm o ddrama fer Maureen Rhys a John Ogwen, ‘Mynd i’r Wal’ (roedden nhw wedi gorfod ffilmio ymlaen llaw diolch i Covid), yn wledd i’r llygaid ac i’r glust. Maureen Rhys sy’n hawlio’r camera gan fwyaf, a’i harddwch yn pefrio ar y sgrîn. Hi yw’r wraig sy’n mynd allan i siopa, tra bod ei gŵr Wali MacCavity yn styc yn y wal, a’r holl erchyllterau mawr eto yn parhau yn y byd y tu allan. Dyfalbarhad er gwaethaf pawb a phopeth sy’n nodweddu holl gymeriadau’r tair dramodig yma.
Dyn theatr geiriau
Ail yw Cefin Roberts a’r actorion eraill i wir seren y sioe, sef geiriau Aled Jones Williams. Mae’r farddoniaeth a’r gwirioneddau oesol sydd i’w cael ynddyn nhw yn gyforiog. Ras amhosib ei hennill oedd ceisio cofnodi’r leins difyrraf, am fod un arall yn dod a gwibio heibio i chi ar amrantiad. ‘Mi fethodd y treiglad trwynol ag achub neb erioed. Mae yna ryw achubiaeth mewn dresal,’ meddai’r Dyn Gwyn reit ar y dechrau. ‘Sŵn ei thwt-twtian fel tap yn gollwng,’ meddai wedyn am ei wraig.
Ond wrth gwrs, mae Aled Jones Williams yn feistr corn ar greu drama, felly nid ymsonau geiriol clyfar a blasus yn unig mo’r rhain o bell ffordd.
Dywedodd Cefin Roberts yn y seiat holi ar y diwedd, ‘Sgwennwr i actor ydy Aled’, a dywedodd y byddai’n barod i sefyll mewn llys barn i amddiffyn statws y dramodydd fel bardd. Daeth y sgript iddo drwy’r post yn uniongyrchol gan y dramodydd, wedi ei sgrifennu yn ei lawysgrifen. Dywedodd ei fod yn gyndyn o’i dangos i neb, cymaint y mae yn ei thrysori.
A noson o theatr i’w thrysori oedd hon, yn uned fach ddinod Bara Caws (disgwylier pan fyddan nhw wedi symud i’w cartref newydd sbon ym Mhenygroes – tybed pa emau gawn ni yn fan honno?). Roedd rhai o ddoniau creadigol a pherfformio gorau Cymru ar waith yma; gelech chi ddim gwell yn y Royal Court na’r Almeida. Ond yn wir, mae rhywun yn amau ein bod wedi gweld esgor y bartneriaeth theatrig orau yr iaith Gymraeg, rhwng Cefin Roberts ac Aled Jones Williams.
Mae ‘Lleisiau’ i’w gweld yn Bara Caws tan ddydd Gwener, 15 Gorffennaf