Bob hyn a hyn mi fydd Golwg yn codi’r wal dalu – pay wall – ar un o erthyglau’r cylchgrawn, i bawb gael blas ar yr arlwy…

‘Ymdeimlad o baranoia’ – dyna un o’r pethau sy’n nodweddu tair dramodig newydd gan Aled Jones Williams, un o ddramodwyr cyfoes pwysicaf Cymru, o dan yr enw Lleisiau.

Er nad dramâu am Covid mohonyn nhw, ‘o’r cyfnod hwnnw y tasgant,’ meddai’r dramodydd ar ffleiar hysbysrwydd Bara Caws. ‘Felly ynddynt ceir ymdeimlad o baranoia ac o fyd ymhle y mae pobl yn byw dan fygythiad sy’n aml yn ymylu ar drais.’

Sgrifennodd y tair ddrama fer, neu ddramodig, yn arbennig i’r actorion a fydd yn eu cyflwyno, sef Cefin Roberts, Maureen Rhys a John Ogwen, a Valmai Jones. Fe fydd yr actorion yn eu perfformio yng nghartref Cwmni Theatr Bara Caws yng Nghaernarfon fis yma.

Cefin Roberts sy’n actio yn y ddrama gyntaf o’r tair, Y Dyn Gwyn. Cafodd hadyn y ddrama ei blannu tua phum mlynedd yn ôl, ar ôl i’r dramodydd ddigwydd cyfarfod â’r actor yng nghanolfan Pontio ym Mangor. Gofynnodd Cefin Roberts i Aled Jones Williams a oedd ganddo ddarn o waith newydd y gallai ei berfformio, gan fod arno awydd dychwelyd i fyd actio. (Roedd yn actor a pherfformiwr amlwg cyn iddo sefydlu Ysgol Berfformio Glanaethwy a threulio blynyddoedd yn Gyfarwyddwr Artistig y Theatr Genedlaethol). Ond doedd gan Aled Jones Williams ddim i’w gynnig ar y pryd. “Mi ddudis i – ‘mi gadwa i o mewn co’,’” meddai.

Rai blynyddoedd ynghynt, fe gafodd lythyr gan John Ogwen, a oedd wedi actio mewn drama radio ganddo, yn holi a oedd ganddo ddarn iddo ef a’i wraig Maureen Rhys ei berfformio. “A dyma fi’n meddwl, hwyrach, rywbryd…

“Mi’r oedd y rheina ar fy nghydwybod i. Actorion cry’, ac actorion eiconig Cymraeg. Perfformwyr yn mynd yn ôl blynyddoedd.”

Mae’n cofio’r tro cyntaf iddo weld Cefin Roberts yn actio ar lwyfan am y tro cynta’, pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Nantlle yn niwedd y 1960au. Y ddrama oedd The Admirable Crichton gan J M Barrie. “Dw i’n cofio meddwl – ‘presenoldeb’,” meddai.

A pherfformiadau John Ogwen a Maureen Rhys sy’n rhannol gyfrifol am y ffaith ei fod yn sgrifennu i’r theatr o gwbl. Yn 1974, pan oedd yn fyfyriwr 18 oed ar ei flwyddyn gyntaf yn y brifysgol ym Mangor, mi fuodd i weld y ddau’n perfformio yn yr hen Theatr Gwynedd, yn Alffa Beta, cyfieithiad o ddrama Ted Whitehead.

Two-hander oedd hi, a dw i’n cofio cael fy nghyfareddu gan y ddrama a’r perfformiadau,” meddai. “Dw i ddim yn amau i rywbeth groesi fy meddwl i y byswn i’n licio sgrifennu ar gyfer y theatr.”

“Dwyn” gan Churchill

Yn 2016, mi fuodd Aled Jones Williams yn gwylio perfformiad o ddrama yn y Royal Court yn Llundain gan awdur y mae yn “hoff ddifrifol” ohoni, Caryl Churchill.

“Os oes yna theatr wedi gwneud argraff arna i erioed – y Royal Court yn Llundain ydi honno,” meddai’r dramodydd. “Does dim dwywaith. Lle maen nhw’n perfformio dramâu hollol radical, avant garde, hyd y dydd heddiw.”

Enw’r ddrama gan Caryl Churchill oedd Escaped Alone, lle mae pedair gwraig yn sgwrsio ac, yn sydyn, mae un yn torri allan ac yn cyflwyno ymson, lle mae hi’n disgrifio erchyllterau mawr. Mae’r pedair menyw sidêt yn eu tro yn gwneud yr un peth, yn torri allan o’r olygfa gysurus i gyflwyno monolog ar bethau tywyll iawn y byd.

“Mi wnaeth argraff ddifrifol arna i – y dull, a’r dechneg, a’r ffordd,” meddai Aled Jones Williams. “Os oes rhywun allan yn fanna eisio drama dda i’w chyfieithu i’r Gymraeg – Escaped Alone ydi honna.”

Daeth y ddrama i’w gof ar ddechrau’r cyfnod clo, wrth i oblygiadau’r pandemig ddechrau ymrafael. “Doedd ei erchylltra fo ddim wedi cweit ein cyrraedd ni,” meddai.

Daeth cymeriad iddo o’r enw ‘Y Dyn Gwyn’ a meddyliodd yn sydyn mai dyma’r union beth i’r actor Cefin Roberts.

“Mi sgrifennais i o, ac mae o’n defnyddio techneg Caryl Churchill,” meddai. “Dim ots gen i dd’eud mai wedi dwyn hwnna ydw i. Roedd o’n syniad rhy dda i gael ei adael i’r Royal Court yn unig – roedd rhaid ei gael yn y theatr Gymraeg… ac mi gefais i syniad am ‘Y Dyn Gwyn’. Mi wnes i brynu llyfr arlunio, peijis glân neis, a’i sgrifennu hi yn fy llaw fy hun, a’i gyrru hi i Cefin.”

Yn fuan wedyn, cafodd syniad am ddramodig am fenyw o’r enw ‘O. Myfanwy’ a dechrau ei sgrifennu. Mae ystyr yr ‘O’ yn cael ei egluro yn fuan ar ddechrau’r ddrama, yn ôl y dramodydd, sy’n adnabyddus am ei ddramâu abswrdaidd.

“Dyma fi’n meddwl, ‘Val bia hon’,” meddai Aled Jones Williams, yn cyfeirio at yr actor Valmai Jones. “Doedd Valmai heb ofyn am ddim byd… Mi oedd o’n dalu dyled. Mi ddaru hi fentro arna i yn fy mlynyddoedd cynnar iawn fel dramodydd.”

Valmai Jones a gynhyrchodd ei ddrama Pêl Goch ar ran Cwmni Theatr Gwynedd yn 1998. “Mae hi wedi gwneud lot o fy nramâu fi, ac mae’n ddyled i yn fawr i Valmai,” meddai. “A dyma fi’n meddwl, ‘Val bia hon’, ac mi ddôth! Rhyw ddynas yn cael ei harteithio ac mae hi’n cael ei holi gan ryw lais, ac felly mi gopïais honno yn yr un dull, yn y llyfr yma, a’i gyrru hi i Val.” Mae Dyfan Roberts, actor arall y mae Aled Jones Williams yn ei edmygu’n fawr, yn actio’r ‘Llais’ yn y ddrama honno.

“A, damia, mi ddôth yna ryw syniad arall wedyn o two-hander – am y dyn yn y wal,” meddai. “Ac mi sgrifennais i hi a meddwl, ‘John a Maureen bia hon’.”

Pobol yn “dyfalbarhau”

Sgrifennodd Aled Jones Williams y tair dramodig o fewn rhai wythnosau i’w gilydd, reit ar ddechrau cyfnod y pandemig Covid-19 ym mis Mawrth 2020.

“Dydyn nhw ddim yn drindod, ond mae’r tair yn perthyn i’w gilydd,” meddai. “Dydyn nhw ddim am Covid, dim o gwbl. Dydyn nhw ddim am y cyfnod clo. Os oes yna rywbeth yna – erchyllterau a chanlyniadau newid hinsawdd ydi o. Felly mae’r bobol yma i gyd yn byw yn y cyfnod yna. Maen nhw’n sôn am bethau cyffredin, ac yn trio byw eu bywydau gorau gallan nhw. Dyfalbarhad ydi’r peth. Yn yr ystyr yna, mae’r dramâu yn cyd-berthyn.

“Yn rhyfedd iawn, mi wnaeth Caryl Churchill yn ei dramâu diwetha’ hi – roedd yna dair yn fanno hefyd, yn rhyw lun ar berthyn i’w gilydd… Roedd dylanwad Caryl Churchill yn drwm iawn iawn arna i.”

Mae’r tair drama yn cael eu cyflwyno yn rhan o berfformiadau Llwyfan Bach yng nghartref Cwmni Theatr Bara Caws ar stad ddiwydiannol Cibyn yng Nghaernarfon.

Y ddrama ola’ o’r tair yw Mynd i’r Wal, a sgrifennodd Aled Jones Williams ar gyfer John Ogwen a Maureen Rhys, ac fe fydd hon i’w gweld drwy gyfrwng ffilm ar y noson. Ynddi mae yna ddyn o’r enw ‘Wali McCavity’ ac mae yn byw yn y ceudod yn y wal.

“A ‘Misus’ ydi ei henw hi,” meddai’r dramodydd am gymeriad Maureen Rhys. “Mae hi’n byw ei bywyd ora’ gall hi, yn siopio, bob dydd, ac yn mynd drwy’r strydoedd yma lle mae yna betha’ erchyll yn digwydd. Ond mae hi’n dyfalbarhau.”

  • Llwyfan Bach: Lleisiau (Y Dyn Gwyn, O. Myfanwy, Mynd i’r Wal), Cartref Bara Caws, Cibyn, Caernarfon, Mawrth – Gwener, 12 – 15 Gorffennaf

Cylchgrawn Golwg yn ddigidol ar y We

Os ydych chi eisiau darllen erthyglau cylchgrawn Golwg ar y We, ewch i fan hyn:

Tanysgrifiwch i Golwg a Golwg+ (360.cymru)