Mae un o grwpiau mwyaf poblogaidd yr Alban wedi datgan wrth Golwg bod yna fwy o reswm nag erioed i Gymru frwydro am annibyniaeth.

Daeth dau frawd y Proclaimers yn enwog yn niwedd yr 1980au gyda’u cân anthemig ‘I’m Gonna Be (500 Miles)’. Erbyn heddiw, maen nhw yn arwyr ymhlith cenedlaetholwyr yr Alban a’u caneuon yn anthemau cenedlaethol.