Ynghanol y problemau ar yr wyneb, mae’r blogwyr yn gweld rhywbeth dyfnach. Ben Wildsmith, er enghraifft, yn credu bod ymateb darlledwyr i streic y rheilffyrdd yn arwydd o wahaniaeth diwylliannol…
“Mae arweinydd yr RMT [Mick Lynch] wedi bod yn ben tost i gynhyrchwyr newyddion teledu… Mae pob un wedi anfon eu cyflwynydd druta’ i drywanu’r ffoadur yma o oes arall, ac wedi’u gweld nhw’n cael eu sodro wrth i Lynch wrthod chwarae’r rôl sydd wedi ei gosod ar ei gyfer o ideolog blin, gan gyflwyno ei achos yn dawel i’r genedl… [Nid rhwng dwy ochr yr anghydfod y mae’r gwahaniaeth mawr] ond gyda sylwebwyr a gwleidyddion sydd mor bell oddi wrth fyd gwaith ar lawr gwlad fel na allan nhw ond ei drafod fel maes brwydr fytholegol, lle mae modd deffro ysbrydion y gorffennol i ddychryn y boblogaeth un ffordd neu’r llall.” (nation.cymru)
Ac wrth ystyried problemau Llywodraeth Boris Johnson, mae Mike Small yn yr Alban yn gweld anhawster mwy dwys…
“Y rhai sy’n aros i ddod i’r llwyfan ydi Ed Davey (yr ydw i’n aml, dw i’n cyfadde’, yn anghofio am ei fodolaeth) a Syr Keir Starmer. Dyw’r rhain ddim yn bobl ddifrifol, gredadwy gyda chynigion difrifol, credadwy ar gyfer datrys, nid yn unig y 12 mlynedd o gam-reoli Torïaidd a’r chwe blynedd ers ffiasgo Brexit, ond hefyd y dirywiad cymdeithasol eang a’r tlodi endemig sydd o’n blaen. Does ganddyn nhw ddim ateb neu gynigion cyfansoddiadol i ddatrys y problemau lluosog yn Iwerddon, yr Alban a Chymru na’r llond sgubor o ddrwgdeimlad a karma gwael sydd wedi eu creu tros ddegawdau. Efallai bod trefn bwdr y Torïaid yn dadfeilio i anhrefn… ond ar drothwy llwyddiant etholiadol (efallai) mae pleidiau llipa, ofnus heb fawr i’w gynnig.” (bellacaledonia.org.uk)
Yn ôl cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, mae yna oblygiadau pellach i fwriad y Llywodraeth yn Llundain i gynnig deddf hawliau dynol newydd ac efallai i adael y Confensiwn ar Hawliau Dynol…
“Dim ond un wlad sydd erioed wedi gadael y Confensiwn – Rwsia. Er mor anodd credu hynny, mae yna rai yn senedd Prydain sy’n credu bod Rwsia wedi gwneud y peth iawn i adael trefn sydd wedi gwarantu rhyddid a hawliau pobol am ddegawdau ledled y cyfandir. Dyna pa mor wyrdroëdig yw rhai bellach yn eu casineb at bopeth Ewropeaidd. Bydd Dominic Raab [yr Ysgrifennydd Cyfiawnder] yn hawlio nad yw’n dymuno i dynnu Prydain o’r Confensiwn. Byddai’n sicr yn gataclysmaidd i Brydain ac yn creu twll mawr yng Nghytundeb Gwener y Groglith yng Ngogledd Iwerddon. Mae bod yn y Confensiwn yn rhan hanfodol o’r cytundeb hwnnw…” (thenational.wales)
Heb ail siambr, meddai Leigh Jones, mae angen dwfn hefyd am gynyddu nifer aelodau Senedd Cymru…
“Mae diffyg darpariaethau ffrwyno a chydbwyso yn rhan ddamweiniol o gyfansoddiad Cymru. Rhaid ehangu’r Senedd er mwyn helpu llenwi’r diffyg hwnnw a’r diffyg craffu ar Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Nid pethau dymunol i’w cael yw’r rhain – maen nhw’n agweddau sylfaenol o lywodraeth effeithiol… os bydd Nicola Sturgeon yn cyhoeddi refferendwm newydd ar annibyniaeth i’r Alban… rhaid i Gymru feddwl am ei dyfodol cyfansoddiadol hithau…” (thenational.wales)