Ar drothwy rali fawr YesCymru ddydd Sadwrn, mae Tudur Owen yn ffyddiog bod modd “dangos i bobol yng Nghymru bod annibyniaeth yn gwneud synnwyr”…

Mae disgwyl y bydd miloedd yn heidio draw i Wrecsam y penwythnos hwn ar gyfer gorymdaith annibyniaeth sydd wedi ei threfnu mewn cydweithrediad rhwng AUOBCymru, Indy Fest Wrecsam ac YesCymru.