Mae cael cloi nos Sadwrn Sesiwn Fawr Dolgellau ar ben-blwydd yr ŵyl yn 30 oed yn “golygu lot”, meddai’r canwr Yws Gwynedd.
Bydd yr ŵyl werin yn cael ei chynnal dros y penwythnos (Gorffennaf 15-17) gydag artistiaid fel Sŵnami, Bwncath, Skerryvore, Gwilym Bowen Rhys, a N’Famady Kouyate yn perfformio.
Mae’r arlwy yn ymestyn tu hwnt i gerddoriaeth hefyd, ac yn cynnwys lansiad cyfrol i ddathlu pen-blwydd y Sesiwn Fawr yn 30 oed, Tydi’r Sgwar Ddim Digon Mawr, taith chwedlonol o amgylch y dref, a gweithgareddau i blant.
Fe fydd tua 54 o artistiaid yn perfformio ar naw llwyfan yn y dref, a gwerthodd tocynnau penwythnos yr ŵyl yn gyflymach nag erioed eleni.
‘Atgofion melys’
Tua’r flwyddyn 2000 y perfformiodd Yws Gwynedd yn Sesiwn Fawr am y tro cyntaf, gyda’i fand cyntaf, Yr Anhygoel.
“Mae band Yws Gwynedd i gyd yn edrych ymlaen. Rhwng y band i gyd mae gennym ni i gyd brofiad yn chwarae yn Sesiwn Fawr,” meddai wrth golwg360.
“Mae Ifan [Davies] wrth gwrs o Sŵnami, ac mae yna aelodau o Sŵnami yn byw yn Nolgellau.
“Yn ystod ein gigs cyntaf fel Yws Gwynedd, yr hafau cyntaf wnaethon ni, roedd Sesiwn Fawr yn un o’r gigs lle wnaethon ni sylwi bod pobol wedi dechrau gwrando ar yr albym gyntaf oedden ni wedi’i gwneud o ddifrif.
“Dw i’n cofio fo fel tasa fo’n ddoe. Fe wnaethon ni ddechrau chwarae, ac roedd pobol yn sefyll ryw 30 llath o’r wrthym ni, fel roedd y set yn mynd ymlaen roedd pobol yn dod yn agosach ac yn agosach, ac erbyn y diwedd roedd pawb yn dawnsio.
“Roedd hwnna’n un o’r moments lle roedden ni’n sbïo ar ein gilydd ac yn mynd ‘Cŵl, mae pobol wedi tiwnio mewn i’r albym’.
“Fi’n bersonol, mae hanes fi efo Sesiwn Fawr yn eithaf briliant â dweud y gwir. Fe wnes i chwarae yna efo’r band cyntaf i fi erioed fod ynddo, Yr Anhygoel, yn ôl 2000, mae’n siŵr.”
Chwaraeodd Frizbee, ail fand Yws Gwynedd, yn Sesiwn Fawr fwy nag unwaith.
“Roedd hanes Frizbee yn Sesiwn Fawr yn rili cŵl, y flwyddyn gyntaf fe wnaethon ni chwarae ar y dydd Sul yn y Clwb Rygbi, bron fel ryw afterparty Sesiwn Fawr.
“Gan ein bod ni wedi cael noson mor dda yn y Clwb Rygbi efo’r trefnwyr i gyd yn cael peint i ddathlu, fe gaethon ni’n gwahodd yn ôl y flwyddyn wedyn i wneud y nos Wener. Roedden ni’n rhannu llwyfan efo boi o’r enw Seth Lakeman, roeddwn i’n ffan mawr ohono ar y pryd, boi oedd yn chwarae’r ffidil ac yn canu caneuon gwerin. Roedd hwnnw’n brofiad anhygoel.
“Oherwydd ein bod ni wedi cael gymaint o hwyl arni tua 7 o’r gloch ar y nos Wener yna, gaethon ni’n gwahodd yn ôl y flwyddyn wedyn i orffen y nos Sadwrn o flaen 6,000 o bobol ar y Marian.
“Atgofion melys o Sesiwn Fawr, felly mae’n golygu lot ein bod ni’n ôl yno eto ar gyfer y pen-blwydd yn 30.”
‘Sticio at y set’
Cadw at y set ydy cynllun y band ar gyfer nos Sadwrn, meddai’r canwr poblogaidd.
“Dydyn ni ddim yn un am wneud ryw gimics a ballu, sticio i’r set wnawn ni a jyst gobeithio bod pobol yn ei fwynhau.
“Mae yna wastad rywbeth yn digwydd yn sets ni lle doedden ni ddim yn sylweddoli bod o’n mynd i ddigwydd…
“Mae’n siŵr wneith yna rywbeth ddigwydd! Ond wnawn ni jyst sticio i’n set, gwneud y pethau arferol, a gobeithio y gwneith pobol fwynhau.”
‘Teimlad da’
Bydd Yws Gwynedd yn cymryd rhan yn sesiwn Uffern Fach yn Nhŷ Siamas brynhawn dydd Sadwrn hefyd, lle y bydd y panel ac yntau yn sôn am eu cas le, eu cas berson, eu cas air, ac yn y blaen.
“Munud mae hwnnw wedi gorffen, mae’n siŵr y gwnâi grwydro o gwmpas i weld be ydy be, ond dw i’n edrych ymlaen at gael bod yn Nolgellau achos mae yna deimlad da yno ar benwythnos y Sesiwn,” meddai.
“Pwy bynnag ti’n weld, mae o’n werth ei weld neu glywed.
“Gobeithio fedrith Sesiwn Fawr fynd am ddeng mlynedd arall, a gobeithio fyddai’n perfformio eto mewn deng mlynedd, a gewch chi ffonio fi eto i olygu be mae o’n olygu i fod yn y 40th!”