Heddiw, does dim geiriau sy’n gwneud y tro. Dim brawddegau cysurlon, cyffyrddus i’w ’sgwennu mewn cerdyn neu i’w rhannu mewn neges destun, dim byd i’w ddweud wnaiff lenwi trwch yr union fudandod yma. Heddiw, mae disgyrchiant yn teimlo’n drymach nag arfer.
Gwên mor ffeind â gwawr yr haf yn Nyffryn Nantlle; llais mor ddwfn a hardd â min nos serog, las bro ei febyd. Mae’r strydoedd yn mynd i gofio union rythm ei draed ar y palmentydd; yr awel yn mynd i ddal gafael ar yr atgof o sŵn gitâr a llais llyfn yn crwydro drwy ffenest agored ei lofft, amser dim-mor-faith â hynny ’nôl. Ar aelwydydd ac mewn tawelwch ac mewn twrw yn y fan hyn ac ar draws y wlad, mae ’na rai â’u pennau’n llawn ohono – poen yr hiraeth fel pigyn yn eu perfedd, ac egni’r cariad yn dân byw, cynnes, cysurlon. Diolch byth ei fod o wedi bodoli. Diolch byth ein bod ni wedi cael ei ’nabod o.
Does ’na ddim geiriau, ond dydan ni’n methu peidio â throi’n clustiau i wrando am ryw alaw a fydd yn byw cyn hired ag y byddan ni’n ei chofio.
Does ’na ddim geiriau, ond mae ’na gymaint o eiriau hefyd – gormod ohonyn nhw, llond geiriadur, llond cerddi, llond ceg. Sgwrsio rhwng hen fêts, a thynnu coes direidus, a charedigrwydd hawdd, hael. Sgriptiau oedd yn swnio mor hardd a chymhleth â bywyd go-iawn. Sgyrsiau bychain bob dydd, a thrafodaethau mawrion, ingol. Parablu ben bore ac athronyddu ar ôl peint. Caredigrwydd. Geiriau gyda gwên. Gwirionedd.
Does ’na ddim geiriau, ond y miloedd ar filoedd sydd i’w ddweud amdano, yr holl straeon, yr holl werthfawrogiad, yr holl addfwynder. Y ffrindiau ysgol a’r ffrindiau gwaith, y teulu, hogia’r bandia’, y rhai oedd yn rhannu llwybrau bywyd â fo a’r rhai oedd wedi cwrdd â fo unwaith, flynyddoedd yn ôl. Y rhai oedd yn ei ’nabod oddi ar sgrin eu teledu, neu’n nabod ei lais o’i hoff ganeuon.
Does ’na ddim geiriau sy’n gwneud y tro yn iawn ar ddiwrnod fel heddiw, heblaw am ei eiriau ef ei hun. Etifeddwn y gwir ganddo, a’r cyfrifoldeb i gydnabod y gwir hwnnw – Dim ond unwaith ’da ni ar yr hen fyd ’ma, byw i’r funud, dyna be wna i… Tra pery’r gân a’r gair a’r wên glên yn ein meddyliau, mae’r hen fyd yma’n lle gwell, am fod Dyfrig wedi bod yma.