Ceidwadwyr Prydain yw’r blaid wleidyddol hynaf a mwyaf llwyddiannus yn y byd.
Ers 1830 bu’n gartref i’r rheiny sy’n credu’n gryf mewn traddodiad, cenedl, cyfraith, monarchiaeth, eiddo, busnes, yr eglwys a chymuned. Gyda’i gilydd maent yn wrthun i’r undebau llafur, comiwnyddion, sosialwyr, datganoli, mewnfudo, trethi uchel a newid.
Diolch i hyn, fe lwyddodd y Ceidwadwyr i aros mewn grym am gyfnodau hir. Yn ystod y ganrif ddiwethaf, bu’r Blaid Lafur wrth y llyw am ddeunaw mlynedd yn unig. Y Ceidwadwyr fu wrthi fel arall, un ai ar eu pennau eu hunain neu mewn clymblaid.
Ond nawr, yn dilyn tair blynedd o arweinyddiaeth Boris Johnson, gallwn weld diwedd ar ddominyddiaeth y blaid. Buom yma o’r blaen, wrth gwrs. Roedd dyfodol y Ceidwadwyr yn ymddangos yn fregus iawn yn ystod prif weinidogaeth Theresa May. Ond un o gryfderau’r blaid yw ei gallu i gael gwared ar arweinyddion sy’n methu.
Diolch i partygate, mae’n ddigon posibl y daw 54 llythyr i law Sir Graham Brady – gan gychwyn y broses o geisio cael gwared ar Boris.
Ond mae problem y Ceidwadwyr yn ddyfnach na’r ffaith mai Boris sy’n eu harwain. Mae’r blaid – a’r syniad o Dorïaeth – mewn cors. Nid yw ei gweledigaeth na’i phwrpas yn glir, erbyn hyn.
Yn y cyfamser, gellir uniaethu’r Ceidwadwyr â’r trethi uchaf a godwyd mewn 70 mlynedd; y ddyled enfawr a wynebir gan y Deyrnas Unedig (rydym yn gwario £8.7biliwn y mis ar daliadau llog); yr argyfwng costau byw; y methiant i reoli mewnfudo (un o’r prif ffactorau o ran sicrhau llwyddiant ymgyrch Brexit); diffyg ymddiriedaeth (yn dilyn partygate); sleaze di-ddiwedd (megis porn yn Nhŷ’r Cyffredin); rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd – a mwy.
Ar yr un pryd, araf yw’r cynnydd o ran y deugain ysbyty newydd yr addawodd Boris yn ystod etholiad 2019 – a phrin yw unrhyw arwydd fod Brexit am wella ein bywydau.
Oherwydd hyn, gellir gofyn a ydy’r Ceidwadwyr yn meddu ar unrhyw egwyddorion torïaidd, erbyn hyn?
Mae nifer o Aelodau Seneddol Boris eisoes yn cynnig mai peth da fyddai colli’r etholiad nesaf – gan adael i’r Blaid Lafur wynebu problemau dyrys y degawd nesaf.
Ond er yr holl broblemau, erys yn bosibl iddynt ennill yr etholiad, heblaw eu bod yn dal ati i fynd o ddrwg i waeth. Mae ganddynt fwyafrif sy’n anodd ei ddymchwel (mae ganddynt working-majority o 75, diolch i’r ffaith nad yw aelodau Sinn Féin yn mynychu’r Senedd).
Y perygl iddynt yw y daw’r Blaid Lafur a’r pleidiau eraill ynghyd er mwy creu clymblaid enfys (gyda’r SNP, y Democratiaid Rhyddfrydol, y Blaid Werdd a Phlaid Cymru). Er y byddai angen cytuno refferenda annibyniaeth i’r Alban ac, o bosib, i Gymru – mae’n ddigon posibl y byddai etholwyr yn derbyn hynny – wrth benderfynu fod newid yn fwy pwysig na rhwystro’r refferenda (tra’n gobeithio mai methu fyddai hanes yr SNP).
Beth fydd ar yr agenda, wedyn?
Mwy o drethi; ymosod ar eiddo a chyfalaf (fel mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gwneud drwy gyflwyno’r modd i orfodi perchnogion ail-dai i dalu 400% o Dreth y Cyngor); daw’r pwysau presennol yn erbyn moduro yn rhyfel – peth anodd a drud fydd gyrru i unrhyw le; ni fydd croeso i gyfalafiaeth; mwy o cancel-culture; byddwn yn ymdrechu i ail-greu ein perthynas â’r Undeb Ewropeaidd ac, wrth gwrs, fe ddaw annibyniaeth i’r Alban a Chymru’n agosach.
Gellir hefyd disgwyl cyflwyno system o gynrychiolaeth gyfrannol (PR) er mwyn ethol aelodau’r Senedd. Drwy hyn, fe ddaw’n anodd iawn i’r Ceidwadwyr arwain llywodraethau’r dyfodol.
Os na fydd y Ceidwadwyr yn dewis arweinydd newydd yn fuan mae’n bosib mai’r agenda uchod fydd legasi Boris Johnson.
Yn y cyfamser, Boris, in vino veritas.