Rydym wedi arfer gweld Tudur Owen, Sian Harries a Gareth Gwynn yn cydweithio ar raglenni teledu poblogaidd fel Tourist Trap ac O’r Diwedd. Dw i wastad yn mwynhau O’r Diwedd, yr adolygiad dychanol o’r flwyddyn-a-fu a ddarlledir ar S4C dros gyfnod y Nadolig bob blwyddyn. Fel unrhyw raglen sgetshis, mae ambell un yn taro deuddeg yn fwy na’i gilydd ac yn naturiol mae pobl yn mynd i ffafrio sgetshis gwahanol.