“Pêl-droed yw’r pwysicaf o’r holl bethau sydd ddim yn bwysig mewn bywyd.”

Dyna eiriau Arrigo Sacchi, un o reolwr pêl-droed mwya’ disglair yr Eidal ond un oedd hefyd yn meddu ar bersbectif, diolch i gyfnod cynharach yn ei yrfa cyn pêl-droed yn werthwr esgidiau.

Felly wrth edrych ymlaen at y gêm fawr yng Nghaerdydd dros y Sul, rhaid pwyllo a chyfadde’ na fydd neb yn marw ac na fydd newyn enbyd, waeth beth fo’r canlyniad. Ac eto…

Mae’r gêm amser te ddydd Sul yn bwysicach na’r Jiwbilî, o ydy.