Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r canwr ac actor Dyfrig ‘Topper’ Evans, yn dilyn ei farwolaeth ar ôl salwch byr.
Roedd yn 43 oed.
Yn ôl y DJ Gareth Potter, oedd yn ffrind agos, roedd e “mor dalentog, mor hwylus” ac mae’n dweud y bydd e’n ei “gofio am byth”.
“Dw i’n cofio’r grŵp oedd gyda’r bois, Paladr, a dw i’n cofio’u gweld nhw yn y Glôb ym Mangor,” meddai wrth golwg360.
“Roedden nhw’n rhan o deulu Ankst, ac roeddwn i gyda nhw’n reit aml.
“Wnaeth Dyfrig chwarae Mephestopheles Faust unwaith, a gaethon ni gryn dipyn o hwyl yn gwneud Theatr Bara Caws.
“Wnaethon ni drawsblannu stori Dr Faustus i fewn i’r byd rêfs. Fe oedd y diafol a fi oedd y boi oedd eisiau gwerthu’i enaid er mwyn cael byw am byth.
“Dyna pryd ddaethon ni’n ffrindiau agos, dw i’n meddwl, ac yn rhannu cyfrinachau.”
‘Roedd o’n rhoi coflaid pan oeddwn i angen’
Fel ffrind, meddai Gareth Potter, “roedd o’n foi gonest iawn”.
“Roedd o’n rhoi coflaid pan oeddwn i angen ac roeddwn i yno i ddal ei law e, ac yn ddiweddar yn ystod y cyfnod clo, wnaethon ni weithio efo’n gilydd mewn caffi,” meddai.
“Dw i am gofio’r amseroedd gwych gafon ni, yn cael rêl laff.
“Buon ni lawr yn Ffrainc yn teithio gyda Theatr Bara Caws, fe a’i frawd Iwan wrth gwrs, ac wedyn wnaeth e chwarae mewn band gyda fi. Roeddwn i’n gitarydd a daeth Dyfrig i fewn i chwarae caneuon Traddodiad Ofnus.
“Roeddwn i wedi gobeithio y byddai Dyfrig ar gael i wneud taith i chwarae’r caneuon ond nawr, rydyn ni wedi’u hailryddhau nhw’n gynt.
“Mae’n drist bo ni ddim wedi cael cyfle i fynd ar daith eto efo’n gilydd.
“Mae e’n lot rhy ifanc, lot iau na fi, ond yn ffrind da iawn. Mor dalentog, mor hwylus ac mae fy meddyliau gyda’i deulu.
“Wna i ei gofio fe am byth.”
‘Talent Dyfrig yn rhychwantu cymeriadau annwyl’
Dywedodd Llinos Griffin-Williams, Prif Swyddog Cynnwys S4C: “Roedd talent Dyfrig yn rhychwantu cymeriadau annwyl ar gyfer ein cynnwys plant a chymeriadau mwy brith ar gyfer cyfresi fel Talcen Caled,” meddai Llinos Griffin-Williams, Prif Swyddog Cynnwys S4C.
“Hynny heb sôn am ei allu a’i gyfraniad di-gwestiwn fel cerddor.
“Bydd colled ar ei ôl ac mae ein cydymdeimlad gyda’i deulu a’i ffrindiau.”
Mae llu o deyrngedau wedi’u rhoi i Dyfrig Evans ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd.
Ar Facebook, dywedodd Rhian Cadwladr, “Nesi actio gynta efo Dyfrig pan oedd o’n fachgen ysgol a’i dalent naturiol yn amlwg”.
“Fi oedd ei fam o yn y gyfres Rownd a Rownd, anodd credu na wela’i ei wên ddireidus a’i glywed o’n deud “haia Mam arall” fyth eto.
“Cwsg yn dawel Dyfs bach. Pob cydymdeimlad efo’i deulu a’i ffrindia xxx”.
“Diolch am y gerddoriaeth!”
Mae’r cyflwynydd radio Rhys Mwyn wedi’i ddisgrifio fel “un o gerddorion a chyfansoddwyr mwyaf dawnus y Byd Pop Cymraeg”.
“‘Dyfrig Topper’ fydd Dyfrig i ni am byth – dyna sut oedd rhywun yn ei adnabod a meddwl amdano,” meddai.
“Bydd caneuon fel ‘Newid Er Mwyn Newid’ a ‘Cwpan Mewn Dwr’ yna am byth, yn glasuron, yn gwneud i rhywun wenu a rhoi gwefr wrth wrando.
“Diolch am y gerddoriaeth!”
Ni'n hynod o drist i glywed y newyddion am Dyfrig 'Topper' Evans. Meddwl am ei deulu a'i ffrindiau oll yn ystod y cyfnod anodd yma.
Am dalent. Am gymeriad.https://t.co/GENQQCXxEH
— eisteddfod (@eisteddfod) May 26, 2022
Cymru wedi colli talent enfawr. Diolch Dyfrig Topper am bob dim.
Calonnau pawb yn Eos yn mynd allan i'w deulu a'i ffrindiau. ?
— Eos (@EosCymru) May 26, 2022
Dim ots am neb sy’n chwalu gobeithion – ma’n raid ti sefyll ar ben dy hun – os oes yna rywun yn chwalu breuddwydion – dim ond meddwl am dy freuddwyd dy hun – ac anghofio am bob poen a chur.
Cwsg yn dawel Dyfrig – un o’r sêr gwib llachar yna fydd yn aros am byth ?
— Aled Hughes ??????? (@boimoel) May 26, 2022
Y wên, y direidi, y tiwns, yr egni. Anodd, anodd derbyn bod Dyfrig wedi mynd. Braint go iawn oedd cael cyd-gerdded, cydweithio a mwynhau cyfeillgarwch oes.
Cydymdeimladau dwysaf gyda’i deulu. Diolch Dyfrig am oleuo’n bywydau, a gorffwys mewn hêdd xhttps://t.co/uUojvq28xx
— PYST (@pystpyst) May 26, 2022
Methu credu fod Dyfrig di’n gadel ni. Odd e jyst mor dalentog. Popeth yn llifo ohonno fel afon naturiol a phrydferth. Yn fwy n hynny, rodd e mor gynnes a direidus. Llawn cariad a llawn sbort. Cydymdeimlade a’r teulu oll x
— Ryland Teifi (@RylandTeifi) May 26, 2022
Mor drist clywed y newyddion am Dyfrig.. wedi ei gwrdd am y tro cyntaf tra’n yr ysgol – ac wedi gweithio hefo’n gilydd ar Tipyn o Stad ac Emyn Roc a Rol.. halen y ddaear.. cofion cynhesaf at ei frodyr, ei deulu a’i ffrindiau agos x https://t.co/kIeCbhhtw3
— Jennifer Jones (@JenVaughanJones) May 26, 2022
Mae'n sioc fawr clywed am farwolaeth Dyfrig Evans. Actor a cherddor hynod o dalentog y cawsom ni'r fraint gweithio gydag ar brosiectau fel Chwalfa a C'laen Ta. Roedd ganddo wên i oleuo ystafell ymarfer, ac egni cyfeillgar, heintus. Cydymdeimladau dwysaf gyda'i deulu a ffrindiau♥️ pic.twitter.com/OYqT3tyKCa
— Theatr Genedlaethol Cymru (@TheatrGenCymru) May 26, 2022