Mae nofel graffeg newydd sbon i blant yn dathlu canmlwyddiant yr Urdd trwy adrodd hanes Mistar Urdd.

Wedi’i hanelu at blant 7 i 10 oed, mae Anturiaethau Mistar Urdd gan Mared Llwyd yn cynnwys tair stori fer am anturiaethau Mistar Urdd mewn lleoliadau sydd wrth wraidd y mudiad ieuenctid.

Wrth ddathlu canmlwyddiant yr Urdd eleni, roedd yr awdur a’r Urdd yn teimlo ei bod hi’n amserol iawn i gyhoeddi’r llyfr yn ystod bwrlwm Eisteddfod yr Urdd.

Gan mai nofel graffeg yw hi, mae’r llyfr yn ceisio adrodd hanes Mistar Urdd drwy luniau yn bennaf, sydd wedi’u darlunio gan Sioned Medi Evans.

Anturiaethau Mistar Urdd

Fe ddaeth y syniad tu ôl i’r nofel gan Branwen Rhys Dafydd, Rheolwr Cyhoeddiadau a Chyfathrebu’r Urdd.

Er bod Mistar Urdd wedi bod yn ymddangos mewn cylchgronau a chyhoeddiadau gan yr Urdd ers blynyddoedd, sylweddolodd hi nad oedd gan Mistar Urdd ei lyfr ei hun.

“Dw i wedi bod yn sgrifennu straeon byd i Cip, un o gylchgronau’r Urdd, ers dros ddeng mlynedd erbyn hyn a thrwy hynny fe ofynnodd Branwen a fyddai gyda fi ddiddordeb ddatblygu ar y syniad o greu nofel graffeg,” meddai Mared Llwyd.

“Mae yna dair stori fer yn sôn am wahanol anturiaethau mae Mistar Urdd yn ei gael mewn tri lleoliad amlwg iawn o ran yr Urdd a’r profiadau mae’r Urdd yn cynnig i blant cynradd – Eisteddfod yr Urdd, Gwersyll Llangrannog a Gwersyll Glan-llyn.

“Wedyn daeth Sioned Medi Evans mewn i’r cynlluniau a hi sydd wedi gwneud y lluniau. Mae Sioned yn dalentog dros ben ac mae’r ffordd mae hi wedi gallu troi’r straeon yn ddarluniau byw, deniadol, lliwgar a llawn hiwmor yn fendigedig.

“Mae’n gweddu arddull y straeon yn berffaith fi’n meddwl.

“Yn rhyw fath o gefn i’r cyfan hefyd roedd dathliadau canmlwyddiant yr Urdd ac roedden ni’n teimlo fod hon yn flwyddyn amserol iawn i gyd-fynd â dathliadau’r Urdd.

“Mae’n rhyfedd fod Mistar Urdd heb gael llyfr ei hun yn gynt.

“Ond fi rili wedi mwynhau gweithio arno fe ac yn ddiolchgar am y cyfle i weithio arno fe.

“Roedd hi’n neis cael gweithio ar rywbeth hwylus a phositif sydd jyst yn cyfleu bwrlwm yr Urdd.”

Cyflwyno Mistar Urdd i genhedlaeth newydd o blant

Mae Mistar Urdd wedi bod yn eicon cenedlaethol ers 1976, ac wedi ymddangos fel cymeriad o fewn cylchgronau’r Urdd dros y blynyddoedd, ond mae Mared Llwyd yn teimlo bod y nofel yn gyfle i’w gyflwyno i genhedlaeth newydd o blant.

“I lot fawr o blant, Mistar Urdd yw hwyneb yr Urdd. Mae o’n cynrychioli pwy yw’r Urdd,” meddai.

“Mae o’n rhywun mae plant yn gallu uniaethu gyda dw i’n meddwl.

“Ro’n i eisiau dangos sut mae Mistar Urdd yn rhan o brofiadau plant ond hefyd yn eu helpu i oresgyn eu hofnau fel aros i ffwrdd o’u cartref am y tro cyntaf a gwneud gweithgareddau eithaf heriol.

“Mae Mistar Urdd yn gwneud popeth mae’r plant yn gwneud yn y straeon.

“Ond dw i’n meddwl bod yna chwa newydd o egni wedi bod eleni gyda her torri record y byd gyda chân Mistar Urdd.

“Mae o bron fel eu bod ni’n cyflwyno Mistar Urdd eto i genhedlaeth newydd o blant.

“Mae yna genhedlaeth o blant nawr lle mae dwy flynedd wedi mynd a tydi plant ddim wedi bod i Eisteddfod yr Urdd ac ar deithiau’r Urdd gan gynnwys plant fy hun.

“Ro’n i’n teimlo fel bod angen cyfleu’r bwrlwm yma i’r plant sydd heb gael y cyfleoedd yma dros y ddwy flynedd diwethaf,” meddai.

Mae Anturiaethau Mistar Urdd gan Mared Llwyd a Sioned Medi Evans ar gael nawr, a bydd ar gael i’w brynu yn yr Eisteddfod hefyd (£4.99, Y Lolfa).