Mae hanesydd celf a cherflunydd adnabyddus yn “croesawu” y syniad o osod cerflun cyhoeddus “o safon uchel” yng Nghaernarfon i ddathlu hanes Ellen Edwards, yr athrawes fordwyo o’r dref.
Yng Nghaernarfon dros y Sul, mi fydd y digwyddiad ‘Gŵyl Ellen’ yn dathlu hanes a bywyd y fenyw o Fôn a ddysgodd dros 1,000 o ddynion yn ei hysgol fordwyo yn y 19fed ganrif.
Aled Hughes, cyflwynydd BBC Cymru, fydd yn holi’r hanesydd Elin Tomos amdani – ac mae Aled Hughes wedi dweud ar goedd ei fod yn awyddus i ennyn trafodaeth am gael cerflun o Ellen Edwards ar y Cei yng Nghaernarfon.
“Wel, mater i bobol Caernarfon ydi hynny,” meddai Peter Lord, yr hanesydd celf o Aberystwyth ac awdur y gyfres hanfodol o lyfrau ar hanes celf Cymru, Diwylliant Gweledol Cymru.
“Ond dw i’n croesawu unrhyw ddatblygiad sy’n debyg o greu gwaith celf cyhoeddus sy’n berthnasol ac o safon uchel.”
Y darlun a helpodd i “ennyn diddordeb o’r newydd” am Ellen Edwards
Yn 2020, roedd darlun olew hardd o Ellen Edwards wedi cael ei arddangos yn rhan o sioe fwyaf erioed o waith yr arlunydd o Amlwch, William Roos, yn Oriel Môn yn Llangefni.
Mae’r darlun yn eiddo i Archifdy Gwynedd, a drefnodd i lanhau a thrwsio’r darlun yn arbennig at y sioe honno.
Peter Lord oedd curadur yr arddangosfa, ac mae’n dweud mai darlun Ellen Edwards oedd un o weithiau mwyaf poblogaidd y sioe.
“Mae yn llun arbennig o dda,” meddai.
“Roedd William Roos yn adnabod Ellen Edwards hyd ei oes.
“Mae’r ffaith ei fod wedi cael ei arddangos ddwy flynedd yn ôl wedi helpu creu diddordeb o’r newydd ynddi hi.”