Mae’r cyflwynydd radio Aled Hughes yn awyddus i ddechrau trafodaeth am osod cerflun o athrawes fordwyo yng Nghaernarfon.

Mae lle i gredu bod Ellen Edwards wedi dysgu dros 1,000 o ddynion yn ei hysgol forwrol yn y dref yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Bydd sgwrs yn cael ei chynnal i anrhydeddu ei bywyd a’i gwaith yng Nghaernarfon ddydd Sul (Mai 29), gydag Aled Hughes yn holi’r hanesydd Elin Tomos.

Cafodd Ellen Edwards ei geni yn Amlwch ar Ynys Môn yn ferch i’r Capten William Francis, a adawodd y môr yn 1814 i agor ysgol fordwyo yn Amlwch.

Dilynodd ôl troed ei thad, gan symud i Gaernarfon yn 1830 ac agor ysgol fordwyo lle derbyniodd dynion Caernarfon, Môn, a Llŷn eu haddysg gan basio arholiadau Byrddau Morol Lloegr, yr Alban ac Iwerddon.

Doedd yna ddim bwrdd o’r fath yn bodoli yng Nghymru, ac roedd y ganolfan arholi agosaf yn Nulyn.

Cofio ‘ein pobol ein hunain’

Siawns bod yna le i gofio Ellen Edwards â cherflun, meddai Aled Hughes, wrth ddweud ei fod yn gobeithio y bydd y digwyddiad ddydd Sul yn gyfle i ddechrau’r drafodaeth.

“Fy marn i, a heb read the room ddydd Sul, ydy bod yna le, siawns, yng Nghaernarfon i rywun fel Ellen o bawb, wnaeth gymaint i fordwyo ac i oes aur hwylio Caernarfon,” meddai wrth golwg360.

“Fy ngobaith i ydy y byddai yna o leiaf gydymdeimlad efo hynny.

Aled Hughes

“Mae hi’n hen gri, ar y rhaglen dw i’n trafod pobol [sydd wedi cael eu hanghofio].

“Mae yna ddynion rydyn ni wedi anghofio amdanyn nhw, dw i’n meddwl am Isaac Roberts yn Ninbych, fydda i’n sôn amdano ar y rhaglen fory… seryddwr oedd ymhell o flaen ei amser.

“Rydyn ni’n gwybod am Isaac Newton neu Galileo ond dydyn ni ddim yn gwybod am ein pobol ein hunain.

“Ond yn achos merched, mae hi ddeg gwaith anoddach. Mae yna ddegau o resymau pam, fe patriarchaeth a rhesymau cymdeithasol, dydyn nhw ddim yn cael y sylw.

“Mae meddwl ei bod hi yn o’r 1830au ymlaen wedi mynd ati i hyfforddi 1,000 o ddynion i fynd ar y môr mawr mewn diwydiant oedd mor beryglus, a chael y parch wedyn tu hwnt i Gymru.

“Roedden nhw’n gwybod, os ydy’r rhain wedi bod yn ysgol Ellen mae’r rhain yn forwyr da.

“Mae hyn yn rhywbeth y dylid ei ddathlu. Dw i’n gwybod bod yna lechen yng Nghaernarfon, a dw i’n gwybod bod yna ychydig o wybodaeth ond mae cerflun o ddynes yn yr oes honno’n gwneud be’ wnaeth hi siawns yn rhywbeth y dylid o leiaf ei drafod yn ofalus iawn.

“Mae Cranogwen yn mynd i gael cerflun, a gwych iddi hi yn Llangrannog. Ond siawns nad ydy hi’n bryd i Gaernarfon gael cerflun o ddynes?

“Mi fyddai cael cerflun o Ellen ar y Cei, efallai, yn edrych allan ar y Fenai, fel un oedd wedi’i geni a’i magu ar Ynys Môn, yn hyfryd.”

Mae hi’n ddyddiau cynnar ar y syniad yn dal i fod, meddai Aled Hughes, gan ddweud ei fod yn fwy na bodlon dechrau’r ymgyrch a chynorthwyo ym mha bynnag ffordd bosib.

“Faint o arian fyddai angen, sut fath o gerflun fydda fo, fydd yna awydd am gerflun yng Nghaernarfon? Mae hi’n gyfnod anodd yn ariannol, a fyddai pobol yn gallu mynd i’r pocedi, a faint o arian fyddai angen? Dyna’r cwestiynau dw i ddim yn gwybod yr atebion iddyn nhw,” meddai.

“Mae ‘lle mae dechrau’ a ‘sut mae cael y maen i’r wal’ yn gwestiynau fysa’n grêt eu trafod.”

‘Dathlu Ellen’

Yr hanesydd Elin Tomos sydd wedi dod â sylw i Ellen Edwards yn ddiweddar drwy’r rhaglen radio ‘Papur Ddoe’, a thrwy sgwrsio ag Aled Hughes ar ei raglen.

“Elin sydd wedi gwneud y gwaith tyrchu a fy mraint i fydd cael holi Elin. Gwneud cyfiawnhad y gwnâi, gobeithio, o waith Elin ddydd Sul. Rhoi’r llwyfan pellach i Elin yw’r bwriad dydd Sul,” meddai Aled Hughes.

Elin Tomos

Bydd Gŵyl Ellen yn cynnwys set o gerddoriaeth forwrol gan Gwilym Bowen Rhys, a dangosiad o glipiau byr yn bwrw golwg ar ferched y môr hefyd.

“Er gwaethaf cyfraniad aruthrol Ellen i hanes diwydiannol yr ardal hon, prin iawn yw ymwybyddiaeth pobol leol ohoni, o’i gymharu â, dyweder, Lloyd George,” meddai Osian Owen, sydd wedi trefnu’r digwyddiad a fydd yn cael ei gynnal yn Lle Arall, Llety Arall.

“Rydyn ni’n gobeithio mynd rywfaint o’r ffordd i unioni’r cam hwnnw gyda phrynhawn cyfan i ddathlu Ellen.

“Mae’r ŵyl yn dechrau yng nghwmni Elin Tomos, yr hanesydd sy’n arbenigo mewn hanes diwydiannol lleol, ac yn arbennig rhan merched yn yr hanes hwnnw.

“Wedi hynny, bydd set o gerddoriaeth werin, forwrol, Gymraeg gan Gwilym Bowen Rhys, y cerddor o Fethel yn Arfon. Mae gan Gwilym wybodaeth helaeth o gerddoriaeth hanesyddol, Gymraeg, ac mae gan bob cân ei hanes unigryw ei hun.

“Ac i gloi, byddwn yn dangos cyfres o glipiau byr yn bwrw golwg ar Merched y Môr, cyfrol o 2013 sy’n dogfennu rhan merched Cymru yn hanes morwrol y wlad, o 1750 hyd heddiw.

“Mae Gŵyl Ellen yn ddigwyddiad uchelgeisiol a bydd yn cael ei ffrydio’n fyw i sicrhau bod pawb sy’n dymuno dathlu cyfraniad Ellen yn gallu gwneud hynny.”

Dylai unrhyw un sy’n dymuno dilyn y digwyddiad ar y llif byw gysylltu â Llety Arall ar 01286 662907 neu post@lletyarall.org.

Bydd y digwyddiad yn dechrau am 2yh ddydd Sul, a does dim angen i bobol sy’n mynychu yn y cnawd gofrestru na thalu.