Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi galw ar Aelodau Seneddol Torïaidd i “dyfu asgwrn cefn a chael gwared ar y Prif Weinidog”.
Daw hyn ar ôl i adroddiad Sue Gray ddatgelu manylion niweidiol am ddiwylliant Rhif 10 Downing Street a San Steffan.
Mae’n cynnwys sgyrsiau WhatsApp ac e-byst yn trefnu digwyddiadau tra bod rheolau Covid-19 mewn grym.
Roedd naw delwedd ynghlwm â’r adroddiad, gyda sawl un yn dangos Boris Johnson, a’r Canghellor Rishi Sunak, yn nathliad pen-blwydd y Prif Weinidog.
O dan y cod gweinidogol, mae disgwyl i weinidogion sy’n camarwain senedd yn fwriadol ymddiswyddo, gan gynnwys y Prif Weinidog ei hun.
“Dyw cyfeirio at hwn fel adroddiad damniol am y Prif Weinidog ddim yn ddatganiad digon cryf,” meddai Liz Saville Roberts.
“Mae’n nodi’n glir fod ei arweinyddiaeth, ar lefel wleidyddol a swyddogol, wedi cyfrannu at y diwylliant hwn.
“Am 168 diwrnod, mae’r Prif Weinidog wedi gwarchod ei hun gydag adroddiad Sue Gray.
“Mae hi’n hen bryd i Aelodau Seneddol Torïaidd dyfu asgwrn cefn a chael gwared ar y Prif Weinidog di egwyddor hwn”.
“A fydd o’n gwneud y peth urddasol ac ymddiswyddo?”
Yr un yw neges Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, hefyd.
“Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu mewn du a gwyn y diwylliant o dorri rheolau a thorri’r gyfraith mae’r Prif Weinidog wedi llywyddu drosto,” meddai.
“Fe wnaeth o’r cyfreithiau, eu torri nhw a dweud celwydd wrth y cyhoedd Prydeinig wedyn.
“Mae hon hefyd yn eiliad sy’n diffinio’r Ceidwadwyr Cymreig, sydd wedi sôn yn ddiweddar am eu dymuniad i gael hunaniaeth unigryw yng Nghymru.
“Dw i wedi siarad ag aelodau ei blaid a phleidleiswyr Ceidwadol sy’n syfrdan fod Aelodau Seneddol Ceidwadol yn dal i gefnogi Prif Weinidog sydd ond yn poeni amdano fo ei hun.
“Mae angen iddyn nhw dyfu asgwrn cefn a chyflwyno’u llythyr o ddiffyg hyder.”
‘Mae’n rhaid iddo fynd’
Dywed Jo Stevens, llefarydd materion Cymreig Llafur yn San Steffan, fod “adroddiad Sue Gray yn amlygu’r pydredd sydd wedi heintio Rhif 10 Downing o dan arweiniad y Prif Weinidog hwn”.
“Ef sy’n gyfrifol,” meddai wedyn am Boris Johnson.
“Mae’r Llywodraeth wedi trin pobol Prydain gyda dirmyg llwyr.
“Mae’n gwbl glir fod y Prif Weinidog wedi camarwain y Senedd a phobol Prydain.
“Mae Prydain yn haeddu gwell.
“Mae Aelodau Seneddol Torïaidd a ddywedodd eu bod yn aros am yr adroddiad hwn bellach wedi gweld pa mor ddifrifol yw’r adroddiad.
“Mae’n rhaid iddo fynd.”