Mae Alejandro Blanco, llywydd Pwyllgor Olympaidd Sbaen, wedi cyhuddo awdurdodau Aragon o dorri’r cytundeb a gafodd ei gytuno gyda Barcelona i gyd-gynnal Gemau Olympaidd y Gaeaf yn 2030.

Wrth siarad ar y radio yng Nghatalwnia, fe ddywedodd fod gan yr Arlywydd Javier Lambán “gyfrifoldeb, ac efallai y bydd e’n gwybod pam ei fod e’n ymddwyn yn y modd yma”.

Mae Blanco yn dweud bod ei gabinet wedi gwrthod cytundeb arfaethedig ynghylch lle fyddai’r cystadlaethau unigol yn cael eu cynnal, a hynny er i’w gynrychiolwyr technegol roi sêl bendith i’r cytundeb hwnnw.

Dydy Barcelona ddim wedi cyflwyno cais ffurfiol i gynnal y Gemau eto.

Yn ôl y cytundeb, roedd disgwyl i Aragon gynnal 54 o gystadlaethau a Chatalwnia 42, ond mae Blanco yn dweud ei bod yn sefyllfa “anobeithiol” fod chwe chyfarfod wedi’u cynnal y mater, bod amodau wedi’u cytuno ond fod y cyfan bellach yn aneglur.

Mae’n mynnu bod Pwyllgor Olympaidd Sbaen am fwrw ymlaen â’r cais, ac mae disgwyl iddo gynnal cynhadledd i’r wasg yn ddiweddarach heddiw (dydd Mercher, Mai 25) i amlinellu’r camau nesaf.

Mae disgwyl i Thomas Bach, Llywydd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol, fynd ar ymweliad ar Fehefin 1 ac i’r paratoadau ar gyfer y cais fod yn eu lle erbyn hynny.

Ond yn ôl Blanco, mae agwedd Aragon wrth wrthod y cytundeb wedi “niweidio” safbwynt Pwyllgor Olympaidd Sbaen ynghylch cyflwyno’r cais, ond mae disgwyl i drafodaethau gael eu cynnal beth bynnag ac i’r rhai sy’n cyflwyno’r cais ofyn am ragor o amser i’w baratoi.

Ar hyn o bryd, yr awgrym yw y gallai’r cais fynd yn ei flaen gyda chytundeb Catalwnia a lleoliadau unigol yn Aragon, ac na fyddai angen cydsyniad yr awdurdodau o reidrwydd, gan fod unigolion eisoes wedi cynnig cefnogi’r cais fel y byddai’n ddichonadwy.