Mae Ar Redadeg, ras yr iaith Llydaw, yn gyfle i godi ymwybyddiaeth ac i godi arian at yr iaith Lydaweg, yn ôl Aneirin Karadog.
Yn ôl y bardd, sy’n hanner Llydäwr, mae’r ras yn ffordd o godi hyder pobol ac o annog pobol i berchnogi’r iaith, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n ei medru.
Caiff Redadeg ei chynnal bob yn ail flwyddyn, am yn ail â Gŵyl Genedlaethol y Llydaweg, sy’n debyg i’r Eisteddfod Genedlaethol.
Mae’r ras yn dilyn llwybr gwahanol bob tro, a dechreuodd ras 2022 ddydd Gwener (Mai 20) yn Vitré, gan ddod i ben yn Vannes ar Fai 28.
Daw’r syniad am ras yr iaith yn wreiddiol o Wlad y Basg a digwyddiad Korrika, a gafodd ei sefydlu yn y 1980au, ac a gafodd ei fabwysiadu yng Nghymru ac yna yn Llydaw yn 2008.
“Mae’r ras yn bwysig iawn, mae hi’n gwneud sawl peth,” meddai Aneirin Karadog wrth golwg360.
“Mae hi’n codi ymwybyddiaeth am yr iaith, mae hi’n ennyn ysbryd croesawgar, mae hi’n weladwy hefyd ar hyd strydoedd a heolydd Llydaw wrth fynd o gwmpas Llydaw gyfan, ac mae hi hefyd yn codi symiau go fawr i achosion sydd yn ymwneud â’r iaith.
“Mae sawl cymdeithas a sefydliad sy’n gweithio’n ddyfal ynghlwm â’r iaith rownd y flwyddyn yn cael nawdd hanfodol o Ras yr Iaith o’r arian maen nhw’n ei godi. Rydyn ni’n sôn am gannoedd ar filoedd o Ewros.
“Mae’n rhoi hwb economaidd i weithgarwch yr iaith, ond hefyd i godi hyder ac ymwybyddiaeth am yr iaith. Mae yna ysbryd o geisio cael pobol i berchnogi’r iaith, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n medru’r iaith.”
Gall unrhyw un brynu cilomedr i gerdded neu redeg, ac mae cyfleoedd i wirfoddoli ar y gwahanol gymalau hefyd.
“Gall bawb gyfrannu mewn rhyw ffordd, naill ai’n ariannol neu o ran eu hamser a’u hegni neu gyda nerth eu traed,” meddai wedyn.
‘Nodyn cynhwysol’
Breizh a-bep reizh yw arwyddair y ras eleni.
Mae gan ‘reizh’ sawl ystyr, a gall y frawddeg gyfeirio at sawl mater yn ymwneud â chynhwysiant a chydraddoldeb, megis cydraddoldeb rhwng dynion a menywod, agwedd oddefol dan bob amod, parchu amrywiaeth hunaniaethau rhyweddol, gwneud pethau’n deg a gwybod sut i fyw â’n gilydd.
“Mae’r thema’n cynnwys nodyn cynhwysol a cheisio cael pobol i sylweddoli bod yr iaith yn perthyn iddyn nhw hyd yn oed os nad ydyn nhw’n ei siarad hi, fel sy’n neges gyffredin erbyn hyn yng Nghymru, o ran enwau llefydd, enwau teuluoedd, geiriau sy’n rhan o’u Ffrangeg nhw hefyd sy’n dod o’r Llydaweg ac yn blaen,” meddai Aneirin Karadog.
“Mae’n ddigwyddiad cyffrous, mae yna ddifyrrwch a diddanwch ar hyd y cymalau ac mae’n gorffen gyda chyngerdd mawreddog ar y diwedd.
“Mae pawb yn cario baton, ac yn trosglwyddo baton sy’n cynnwys araith neu neges wedi cael ei llunio gan berson arbennig sy’n weithgar iawn gyda’r iaith.”
Gallwch ddilyn y daith ar dudalen Facebook Ar Redadeg 2022.