Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol a Llafur wedi dod i gytundeb i redeg Cyngor Powys ar y cyd.
Mae disgwyl i’r weinyddiaeth gynnwys yr unig gynghorydd o’r Blaid Werdd ar y Cyngor hefyd, ac i James Gibson-Watt gael ei enwi’n arweinydd.
Pe bai’n cael ei gymeradwyo, fe fyddai’r arweinydd cyntaf ar Gyngor dan reolaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ers 2012.
Bydd y cytundeb rhwng y ddwy blaid yn canolbwyntio ar flaenoriaethau’r Cyngor newydd, sydd wedi’u gosod ar sail yr heriau mae’r sir yn eu hwynebu.
‘Eiliad hanesyddol’
“Mae hon yn edrych fel eiliad hanesyddol i sir Powys,” meddai James Gibson-Watt.
“Dydy’r sir, ers ei sefydlu, ddim wedi cael ei rhedeg gan unrhyw un ac eithrio’r annibynwyr rywfodd neu’i gilydd.
“Fe welodd yr etholiadau ym Mai 2022 newid enfawr yng nghyfansoddiad Cyngor Sir Powys.
“Fe enillodd yr holl bleidiau adeiladol seddi, gan ddangos dyhead gan yr etholaeth i Gyngor Sir Powys newid cyfeiriad, diwylliant a gwerthoedd.
“Fy mwriad i a Grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol yw cydweithio â Grŵp Llafur Cymru i gyflwyno’r newid cyfeiriad hwn a gyrru’r gwelliant mae mawr ei angen ar Gyngor Powys.
“Tra bod gwahaniaethau rhwng ein pleidiau, rydym yn teimlo bod llawer rydyn ni’n cytuno arno sy’n rhoi seiliau cadarn i ni ar gyfer rhannu gweinyddiaeth sy’n adeiladu dyfodol cryfach, tecach a gwyrddach i’n sir.
“Dw i wedi cyffroi o gael bwrw ymlaen â’r gwaith a dechrau cyflawni er lles pobol Powys.”
‘Mae’r her yn sylweddol’
“Rydym eisiau adeiladu dyfodol cryfach, tecach a gwyrddach i Bowys ac mae ein cytundeb yn amlinellu map ffordd tuag at y dyfodol hwnnw,” meddai Matthew Dorrance, arweinydd Grŵp Llafur y Cyngor.
“Dw i’n falch iawn fod Llafur Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi gallu cydweithio i adeiladu consensws a chytundeb ynghylch rhannu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol lle mae cymunedau’n ffynnu, a lle mae’r Cyngor yn gweithio er lles teuluoedd ledled y sir.
“Mae’r her yn sylweddol, ond safon yn barod i wasanaethu.”
Mae disgwyl i swyddi’r Cabinet a chyfeiriad polisi mwy manwl gael eu cyhoeddi’n llawn heddiw (dydd Iau, Mai 26) yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
Y cabinet yn llawn:
James Gibson-Watt (Democratiaid Rhyddfrydol) – Powys agored a thryloyw
Matthew Dorrance (Llafur) – Dirprwy arweinydd a Phowys decach
David Selby (Democratiaid Rhyddfrydol) – Powys lewyrchus
David Thomas (Llafur) – cyllid a thrawsnewidiad corfforaethol
Sian Cox (Democratiaid Rhyddfrydol) – Powys ofalgar
Richard Church (Democratiaid Rhyddfrydol)- Powys fwy diogel
Pete Roberts (Democratiaid Rhyddfrydol) – Addysg
Jackie Charlton (Democratiaid Rhyddfrydol) – Powys wyrddach
Susan McNicholas a Sandra Davies (Llafur) – rhannu’r cyfrifoldeb dros Genedlaethau’r Dyfodol
Jake Berriman (Democratiaid Rhyddfrydol) – Powys gysylltiedig