Ddechrau’r wythnos fe gafodd rhestr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022 ei chyhoeddi yn fyw ar Radio Cymru.

Ar y panel beirniadu llyfrau Cymraeg eleni mae’r darlledwr Mirain Iwerydd; y cyflwynydd a’r colofnydd Melanie Owen; yr ysgolhaig a’r golygydd Siwan Rosser; a’r cyfarwyddwr a’r llenor Gwion Hallam.