Mae’r cyflwynydd tywydd Robin Owain Jones yn treulio oriau yn trio dal tirwedd a golygfeydd godidog Eryri ar ei gamera.

Er bod ganddo ddiddordeb mewn ffotograffiaeth ers iddo fod yn blentyn, rhoddodd y cyfnod clo gyfle iddo droedio mwy ar ei filltir sgwâr a datblygu’r diddordeb ymhellach.

Wedi’i eni a’i fagu yn Rhosmeirch ar Ynys Môn, mae Robin bellach yn byw ger Caernarfon ac yn mwynhau’r her o geisio rhoi gogwydd newydd ar olygfeydd cyfarwydd.