Ar ôl hir ymaros, mae gwaith arloesol Daniel Huws wedi gweld golau dydd…

Cafodd campwaith pwysig yn hanes llenyddiaeth Gymreig ei gyhoeddi’r wythnos hon, sef A Repertory of Welsh Manuscript and Scribes, c.800 – c.1800.

Mae’r Repertory yn astudiaeth fanwl o lawysgrifau Cymreig o’r Oesoedd Canol hyd at y Chwyldro Diwydiannol.