Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r Senedd yn achosi rhaniadau o fewn y Blaid Lafur.

Ddechrau’r wythnos fe bleidleisiodd Plaid Lafur y Rhondda yn unfrydol yn erbyn y cynigion.

Mae aelodau’r Rhondda yn cefnogi diwygio mewn egwyddor, yn ôl yr Aelod Seneddol lleol Chris Bryant, ond wrth gyhoeddi canlyniad y bleidlais, dywedodd nad oedden nhw’n fodlon gyda’r system ar gyfer ethol aelodau’r Senedd.