Mae yna alw am gynnal refferendwm cyn ehangu’r niferoedd yn y siambr o’r 60 aelod presennol i 96…

Mae’r ddadl dros gael mwy o wleidyddion yn Senedd Cymru yn dechrau poethi ym Mae Caerdydd.

Waeth beth yw eich barn ar gynlluniau’r Blaid Lafur a Phlaid Cymru, fe fydd yr hyn sy’n cael ei gynnig yn gweddnewid gwleidyddiaeth ein gwlad.