Mae’r triawd talentog o Gaerfyrddin ar fin chwarae gig yng ngŵyl gerddoriaeth enwoca’r blaned…

Mi fydd tair Cymraes yn chwifio’r faner dros Gymru yn y Glastonbury Festival of Contemporary Performig Arts yr wythnos nesaf.

Dyma ŵyl gerddorol enwoca’r blaned ac eleni mae hufen y byd roc a phop yn perfformio yno – cewri megis Paul McCartney, Diana Ross, Fleetwood Mac, Billie Eilish a Primal Scream.