Fel rhan o’r ddeuawd pop-electronaidd Duskey Grey y gwnaeth Catrin Hopkins ei hargraff gyntaf ar y sîn gerddorol, a phrofi llwyddiant rhyfeddol.

Mae un o senglau’r band, ‘Told Me’, wedi cael ei ffrydio dros 12 miliwn o weithiau ar Spotify, ond erbyn hyn mae’r gantores o Gaernarfon yn rhyddhau cerddoriaeth ar ei phen ei hun dan yr enw Catty.