Da iawn BBC Cymru am ddangos cyngerdd y Stereophonics yng Nghaerdydd ar y teledu.
Roedd 60,000 yn y stadiwm rygbi ei hun ac fe gawson ni gyd y cyfle i wylio’r gig flasus o bell ar ein soffas.
Am gychwyn gwefreiddiol gafwyd i’r cyngerdd gyda Chôr Meibion Cwmbach a’r miloedd yn y dorf yn bloeddio canu ‘Hen Wlad Fy Nhadau’.
Hyn oll ar gynffon perfformiadau trydanol-gogonianol-arallfydol Dafydd Iwan a’r Wal Goch o ‘Yma O Hyd’… y dyddiau hyn, mae Gwlad y Gân yn fwy Gwlad y Gân-aidd nag erioed!
Rhywsut, mae yn teimlo fel yr adeg berffaith i groesawu’r Eurovision Song Contest i Gymru.
Mae cynnal y gystadleuaeth ym Mhrydain yn opsiwn go-iawn gan nad oes modd ei chynnal yn Wcráin y flwyddyn nesaf, sef y wlad enillodd yr Eurovision eleni.
Dyna’r drefn – mae’r gystadleuaeth yn mynd i wlad yr enillydd… ond oherwydd y rhyfel, mae sôn am gynnal yr Eurovision ym Mhrydain am mai hi ddaeth yn ail eleni.
Wrth gwrs bod yr Eurovision yn destun sbort – mae Awstralia yn cael cystadlu!
Ac i genedlaetholwyr, mae’r ffaith nad yw Cymru yn cael cystadlu ar ei phen ei hun yn faen tramgwydd.
Ond roedd 161 miliwn o bobl wedi gwylio’r gystadleuaeth ar deledu nôl ym mis Mai, felly does dim dwywaith fod yma gyfle a hanner i farchnata’r wlad sy’n cynnal y jambori.
Ac mae gwleidyddion gwerth eu halen wedi gweld y cyfle.
Mae Nicola Sturgeon wedi cynnig cynnal y sioe yn Glasgow, a Sadiq Khan eisiau denu’r Eurovision i Lundain.
Ond wrth i Golwg fynd i’r Wasg, doedd dim smic wedi dod o enau Prif Weinidog Cymru.
Dim ond y Torïaid lawr ym Mae Caerdydd sydd yn gweld y potensial.
“Mae yn drist iawn na fydd modd cynnal yr Eurovision Song Contest yng ngwlad yr enillydd y flwyddyn nesaf oherwydd yr anghydfod yn Wcráin,” meddai Andrew RT Davies, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.
“A gan mai’r Deyrnas Unedig ddaeth yn ail, does dim dwywaith y gallai gynnal digwyddiad gwych.
“Byddai Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd yn le gwych i gynnal cystadleuaeth arobryn, a chael dangos un o leoliadau cyngherddau gorau Cymru a dangos y gorau o Gaerdydd a Chymru i’r byd.”
Ychwanegodd Tom Giffard, Gweinidog Cysgodol y Ceidwadwyr dros Ddiwylliant, mai Cymru fyddai “y dewis perffaith i gynnal yr Eurovision a hithau yn ‘Wlad Beirdd a Chantorion’.”
Mae angen i Lywodraeth Cymru gael ymgyrch ‘Dewch â’r Eurovision i Gymru’ a defnyddio sêr megis y Stereophonics, Syr Tom Jones a Cerys Matthews i helpu’r achos.
Mi fyddai cynnal y gystadleuaeth yma yn bluen anferthol yn het Mark Drakeford a’i griw, ac yn rhoi dipyn o fywyd yng ngwleidyddiaeth lywaeth Senedd Cymru.
Yn yr Eurovision eleni yn yr Eidal, cafwyd cychwyn gwefreiddiol i’r sioe wrth i’r gynulleidfa gyd-ganu ‘Give Peace a Chance’, anthem John Lennon sydd mor berthnasol ag erioed gyda’r rhyfela yn Wcráin.
Dychmygwch Dafydd Iwan yn agor y gystadleuaeth yn 2023 yn ein prifddinas, gyda 60,000 yn y stadiwm rygbi yn cyd-ganu un o’i hits.
Tybed pa un o glasuron Dafydd fydden nhw am ganu?!