Os dwi’n onest, dwi’n mwynhau PMQs [Prime Minister’s Questions]. Fydda i’n dal i fyny efo fo bob diwrnod, os na allaf ei wylio’n fyw. Tra bod naws y peth yn amhoblogaidd ymhlith nifer fydd yn darllen y golofn hon, mi fyddwn i’n dadlau ei fod yn gweithio. Mae’n dangos bod dwy ochr glir a dewis i’n gwleidyddiaeth, ac fel rheol mae’n un o’r ychydig fforymau lle gall Kier Starmer gael y gorau o Boris Johnson un-i-un.
Wythnos diwethaf, aeth hi bach yn fflat. Gydag obsesiwn Starmer ar beidio â’i gyfleu ei hun fel boring, fe gafwyd cyfeiriadau poenus at bethau fel Star Wars a Love Island – doedd cymharu Johnson gyda Jabba the Hutt ddim wir yn deilwng o senedd-dŷ. Ond mae’n amlwg bod delwedd Starmer fel dyn diflas yn crafu arno.
Ond, does yna ddim byd sy’n gwneud rhywun yn fwy diflas na thrio bod yn ddoniol a methu, a phan ddaw hi at garisma dydi arweinydd Llafur byth am ennill y frwydr honno, a thrwy orymdrech gallai niweidio ei hun yn y pen draw. Efallai bod y blaid Lafur dwtsh yn rhy ymwybodol nad ydi hi wedi cael arweinydd difyr, heb sôn am garismatig, ers Tony Blair.
Draw yn y Bae, mae sesiynau holi’r Prif Weinidog yn wahanol… yn affwysol o ddiflas, i’r graddau byddai rhywun yn cael trafferth aros yn effro ar eu cyfer ar ôl deg llinell o gocên. Bai’r ddwy wrthblaid ydi hyn. Ar yr un llaw mae’r Ceidwadwyr yn y Bae wedi penderfynu mai job gwrthblaid ydi ceisio beirniadu’n ddiwahân, heb gynnig atebion a thrio creu cymaint o anniddigrwydd â phosibl. Does ganddyn nhw ddim i’w gynnig, nac awydd gwneud chwaith.
Ar y llaw arall, Plaid Cymru, gydag Adam Price yn cynnal pwyllgor llywaeth â Drakeford pob wythnos, yn simsan ei graffu, ac yn gorfod dal yn ôl rhag ymatebion diystyriol eu naws y Prif Weinidog er mwyn y cyfamod sanctaidd a wnaed.
Rŵan, mae’r sioe yn Llundain yn droëdig ar sawl lefel, llwyfan perfformio ydi hi. Ond eto’n fformat sy’n arddangos dau ddewis clir i’r rhan fwyaf o bobl. Beth felly am y sesiwn ateb yng Nghaerdydd? Ceir elfen o frwydr ar lannau Afon Tafwys.
Llonydd yw dyfroedd y Bae. Gall Drakeford lwyr ddiystyru ei wrthwynebwyr, gan fod dim beirniadaeth o du un, a sgrechian hysteraidd gan y llall. Chaiff hyd yn oed gŵr yr un mor llwydaidd â’i arweinydd Llundeinig, Keir Starmer, y drafferth leiaf wrth ddelio ag ŵyn a mosgitos ei sffêr gwleidyddol.
Hwyrach mai fi sy’n disgwyl gormod. Yn disgwyl i wrthbleidiau gydbwyso craffu miniog a gwrthwynebiad angerddol gyda’r awydd i gyflawni pan fo adegau’n galw am hynny. Balans anodd, efallai, ond angenrheidiol. Ac mae’n drueni, ar ôl chwarter canrif o ddatganoli, bod San Steffan dal yn rhagori ar ein Senedd ni yn hyn o beth.