Fel rhan o fy ymchwil at broject newydd, rydw i wedi bod yn edrych ar ymgyrch Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd yn Rwsia yn 2018.

Ar y pryd, yn syth ar ôl llwyddiant gwefreiddiol Euro 2016, dydw i ddim yn meddwl fy mod i wedi sylwi pa mor agos oedd tîm Chris Coleman i gymhwyso. Mewn ffordd, roedd Euro 2016 yn teimlo fel digwyddiad unwaith-mewn-bywyd a doedd gen i ddim disgwyliadau am y gemau nesaf.  Ond wrth edrych yn ôl falle dylem ni fod wedi gorffen ar frig ein grŵp.