Mae Arweinydd Plaid Cymru wedi galw am yr hawl i gynnal refferendwm ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.

Cafodd galwadau Adam Price eu gwneud ar ôl i San Steffan ddweud ddoe (Mehefin 27) eu bod nhw’n bwriadu dileu deddf a gafodd ei chreu gan y Senedd yng Nghymru, Deddf Undeb Llafur 2017.

Mae gwleidyddion ac undebau llafur wedi beirniadu cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gan ddweud eu bod nhw’n ymosod ar ddatganoli, democratiaeth, a hawliau gweithwyr.

Daw galwadau Adam Price yn y Senedd wrth i Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, gyhoeddi ei gobeithion i gynnal refferendwm annibyniaeth yno ar Hydref 19 2023.

‘Ymdrech i ddwyn grym’

Wrth siarad yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw, dywedodd Adam Price bod “San Steffan eisiau perthynas â Chymru lle mai nhw sydd mewn grym a’r Senedd yn ddarostyngol”.

“Wrth gyhoeddi, heb ddweud gair wrth Lywodraeth Cymru, eu bwriad i ddadwneud Deddf Undebau Llafur 2017 a gafodd ei phasio gan ein Senedd, mae San Steffan wedi dangos eu difaterwch tuag at weithwyr, Cymru, ac ein democratiaeth,” meddai Adam Price,

“Mae hwn yn un peth arall ar restr hir o ymdrechion i ddwyn grym. O bosib mai hyn, hefyd, yw diwedd datganoli. Mae’n dadwneud hawliau sifiliaid, ac yn gwadu hawliau’r bobol hynny rhag penderfynu ar eu dyfodol eu hunain.

“Mae’n rhaid cael ymateb gwleidyddol y bydd yn gorfodi San Steffan wrando.

“Dydy llythyr cryf gan Lywodraeth Cymru ddim am weithio. Ymateb y Prif Weinidog i ymdrechion San Steffan i ddwyn grym yw gobeithio y bydd Llafur yn llwyddo yn yr etholiad cyffredinol nesaf, ond be sy’n digwydd os ydy Llafur yn colli’r etholiad cyffredinol nesaf, a’r un wedyn?

“Mae gan Blaid Cymru ateb syml iawn i’r sefyllfa hon fyddai’n golygu cael gwared ar allu San Steffan i sathru ar ein democratiaeth am byth – nid yn unig yn ystod y cyfnodau byr pan mae Llafur mewn grym yn San Steffan – ac annibyniaeth yw hyn.

“Os nad yw Llafur yn barod i gefnogi annibyniaeth nawr, yna siawns fedra nhw gefnogi refferendwm ymgynghorol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. Os yw’n cael ei fframio fel Cymru yn erbyn San Steffan, siawns ei fod yn refferendwm y gallwn ni ei ennill?”

Ddydd Sadwrn (Gorffennaf 2), bydd Rali Annibyniaeth yn cael ei chynnal yn Wrecsam, y gyntaf ers 2019.

Ar ôl yr orymdaith, bydd rali gyda siaradwyr a cherddoriaeth, a bydd sgriniau mawr ger y llwyfan, lle bydd Dafydd Iwan, Pol Wong o Indy Fest Wrecsam, y bardd ac ymgyrchydd Evrah Rose, y digrifwr Tudur Owen, y Cynghorydd Carrie Harper, yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd a Dylan Lewis Rowlands o Labour for Indy Wales yn annerch y dorf.

Bwriad Llywodraeth San Steffan i ddileu un o ddeddfau’r Senedd yn “ymosodiad ar ddatganoli”

“Mae’n ymddangos bod Torïaid y Deyrnas Unedig yn casáu Cymru a phobol weithiol… Neu, hwyrach eu bod nhw eisiau chwalu’r Deyrnas Unedig?”
Dafydd Iwan

Yr “amseru’n berffaith” i gynnal gorymdaith annibyniaeth Wrecsam, medd Dafydd Iwan

Huw Bebb

“Dydy pawb ddim yn cytuno ar bob peth, ond y prif beth ydi’r alwad am annibyniaeth i Gymru”
Refferendwm yr Alban

‘Llywodraeth yr Alban ag achos cryf iawn dros gael cynnal ail refferendwm annibyniaeth’

“Os ydy’r llywodraeth Brydeinig yn parhau i wrthod yna mae hynna ynddo fo ei hun yn mynd i newid natur y wladwriaeth,” medd yr Athro Richard Wyn Jones