Mae gan Lywodraeth yr Alban achos “cryf iawn, iawn” dros gael cynnal ail refferendwm annibyniaeth, meddai’r sylwebydd gwleidyddol a’r Athro Richard Wyn Jones.
Yn ôl Richard Wyn Jones, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, mae gan Nicola Sturgeon ddwy nod wrth lansio ail ymgyrch annibyniaeth heddiw (Mehefin 14).
Y cyntaf yw ail-danio cefnogaeth tuag at annibyniaeth ymysg pleidleiswyr yn yr Alban, a’r ail yw darbwyllo Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gydsynio i ail refferendwm.
Mae Nicola Sturgeon wedi dweud ei bod hi’n hyderus y gall yr Alban ddechrau’r daith tuag at gynnal refferendwm annibyniaeth cyfreithiol nawr, ac y bydd y manylion yn cael eu cyflwyno i Senedd yr Alban yn “fuan iawn”.
“Dydy ail-danio hynna i gyd ar ôl cyfnod Covid ddim yn hawdd, mae yna lot o bethau wedi digwydd yn y cyfamser,” meddai Richard Wyn Jones wrth golwg360.
“O safbwynt Llywodraeth yr Alban, mae yna fwyafrif yn y Senedd yr Alban eisiau refferendwm arall. Mae gan yr SNP fandad amlwg yn sgil cyfres o etholiadau yn yr Alban, ond mae’r Llywodraeth Brydeinig bresennol yn ceisio dweud ‘Na’.
“Mae yna amheuaeth ddofn a fyddai’n gyfreithlon iddyn nhw gynnal ail refferendwm heb gydsyniad Llywodraeth Prydain. Yn amlwg mae yna rai’n dadlau fel arall, ond dw i’n meddwl mai’r consensws ydy eu bod nhw angen cydsyniad Llywodraeth Prydain cyn gwneud.
“Os ydych chi’n credu mewn democratiaeth, mae gan Lywodraeth yr Alban, yr SNP a’r Gwyrddion, a gweddill cefnogwyr annibyniaeth, achos cryf iawn, iawn dros ail refferendwm.
“Os yw mandad mewn etholiad democrataidd yn golygu unrhyw beth yna mae’r SNP wedi ennill cyfres o etholiadau lle maen nhw wedi dweud ‘Rydyn ni eisiau cynnal refferendwm arall’.
“Maen nhw wedi ennill buddugoliaethau mawr tra’n dweud hynny ac mae yna fwyafrif yn Senedd yr Alban o blaid y peth. Ar ben hynny mae’n amlwg fod pethau wedi newid yn sylfaenol ers y tro diwethaf i’r Alban bleidleisio ar annibyniaeth yn ôl yn 2014. Dwy flynedd yn ddiweddarach fe gafwyd refferendwm sydd wedi arwain ar lusgo’r Alban allan o’r Undeb Ewropeaidd yn erbyn ewyllys etholwyr yr Alban.
“Rhwng popeth mae yna achos democrataidd cryf iawn, iawn dros gynnal ail refferendwm ond mae’r Llywodraeth Brydeinig am geisio gwrthod.”
‘Newid natur y wladwriaeth’
Beth bynnag fo canlyniad ymgyrch Nicola Sturgeon dros gynnal ail refferendwm, bydd yn newid natur y wladwriaeth Brydeinig, meddai Richard Wyn Jones.
“Ar y naill law, os bydd refferendwm arall yn cael ei ganiatáu, yna’n amlwg mae hynna’n mynd i newid natur y sgwrs yn gyfan gwbl ynglŷn â dyfodol y wladwriaeth,” meddai.
“Ar y llaw arall, os ydy Llywodraeth Prydain yn penderfynu gwrthod caniatáu llwybr democrataidd i annibyniaeth, mae hwnna’n mynd i ddweud rhywbeth sylfaenol wrthym ni am natur y wladwriaeth rydyn ni’n byw ynddi. Mae cefnogwyr yr Undeb yn dweud bod hi’n undeb wirfoddol o genhedloedd… ond wrth gwrs, os ydyn nhw yn y pendraw yn gwrthod ar unrhyw gyfrif i adael i bobol benderfynu gadael yna does yna ddim yn wirfoddol am y peth wedyn.
“Mewn geiriau eraill, os ydy’r llywodraeth Brydeinig yn parhau i wrthod a gwrthod a gwrthod yna mae hynna ynddo fo ei hun yn mynd i newid natur y wladwriaeth, a hynny mewn ffordd dw i’n meddwl y byddai llawer o unoliaethwyr yn ddigon anghyfforddus efo fo.”