Mae Prif Weinidog yr Alban wedi lansio ymgyrch annibyniaeth newydd, gan ddweud bod yna “fandad diamheuol” dros gynnal ail refferendwm.

Dywedodd Nicola Sturgeon heddiw (Mehefin 14) ei bod hi’n barod i geisio dod i gytundeb â Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson, ar gynnal pleidlais arall.

Ers y bleidlais gyntaf yn 2014, mae dau brif weinidog Ceidwadol, Theresa May a Boris Johnson, wedi gwrthod caniatáu ail refferendwm.

Fodd bynnag, mae Nicola Sturgeon wedi dweud ei bod hi’n hyderus y gall yr Alban ddechrau’r daith tuag at gynnal refferendwm annibyniaeth cyfreithiol nawr, ac y bydd y manylion yn cael eu cyflwyno i Senedd yr Alban yn “fuan iawn”.

“Mae’r achos dros ganiatáu i’r Alban ddilyn ein trywydd ein hunain, trywydd gwell, yn gryf,” meddai Nicola Sturgeon wrth siarad mewn digwyddiad yng Nghaeredin.

“Dydy annibyniaeth ddim yn sicrhau llwyddiant i unrhyw wlad, ac ni ddylem ni gymryd arnom ei fod.

“Ond i’r Alban, bydd annibyniaeth yn rhoi’r grym i benderfynu y llwyddiant yn ein dwylo ni.

“Mae’n golygu ein bod ni’n gallu gweithio mewn partneriaeth gyda’n ffrindiau yng ngweddill y Deyrnas Unedig, ond peidio cael ein rheoli gan benderfyniadau llywodraethau San Steffan nad ydyn ni wedi pleidleisio drostyn nhw a chael ein tywys i’r cyfeiriad anghywir.”

‘Dechrau’r diwedd’

Mae Liz Saville Roberts, Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi croesawu’r newyddion gan ddweud bod heddiw’n “ddiwrnod hanesyddol ar ddechrau’r diwedd i’r Undeb fel rydyn ni’n ei hadnabod”.

Fodd bynnag, mae’r gwrthbleidiau yn yr Alban wedi dweud y dylai’r SNP ganolbwyntio ar broblemau eraill sy’n wynebu’r wlad, megis yr argyfwng costau byw.

Wrth ymateb i’r ymgyrch newydd, dywedodd llefarydd swyddogol Boris Johnson bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn credu mai nad nawr yw’r amser i siarad am refferendwm arall.