Fe wnaeth Cymru golli bron i 7,000 o swyddi yn y diwydiant gweithgynhyrchu yn ystod y pandemig, yn ôl dadansoddiad newydd.

Cafodd yr ystadegau eu rhyddhau gan undeb GMB yn eu Cyngres Flynyddol yn Harrogate yr wythnos hon, ac mae’r colledion yn “ddinistriol” i gymunedau dros y wlad, meddai.

Rhwng 2019 a 2021, bu gostyngiad o bron i 5% yn nifer y swyddi, gyda 6,900 yn diflannu.

Ar ddechrau 2019, roedd 149,200 o swyddi parhaol a thros dro yn y diwydiant gweithgynhyrchu yng Nghymru, ond erbyn dechrau 2022 roedd y nifer wedi gostwng i 142,300.

Dywedodd Charlotte Childs, swyddog GMB yng Nghymru: “Mae colli 7,000 o swyddi yn y diwydiant gweithgynhyrchu yn ystod y pandemig yn ddinistriol i gymunedau yng Nghymru.

“Oni bai bod Gweinidogion yn mynd i’r afael â hyn ar frys gallai pethau waethygu eto.

“Gallai’r ras i gyrraedd sero-net chwyldroi diwydiant gweithgynhyrchu’r Deyrnas Unedig; gan greu degau ar filoedd o swyddi newydd, gwyrdd mewn meysydd ynni gwynt, solar, niwclear, a mwy.

“Yn hytrach, mae’r Llywodraeth yn ymddangos fel eu bod nhw’n benderfynol o adael iddyn nhw ddiflannu dros y môr.”

Cryfhau’r diwydiant

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi ymrwymo i gryfhau’r diwydiant gweithgynhyrchu er mwyn sicrhau ei fod yn “parhau i chwarae rhan hanfodol mewn cymunedau ledled Cymru”. 

“Y llynedd, cyhoeddwyd Cynllun Gweithredu Gweithgynhyrchu newydd gennym i helpu i sicrhau dyfodol hirdymor gweithgynhyrchu yng Nghymru,” meddai.

“Mae’r cynllun yn nodi’r camau sydd eu hangen i ddatblygu sector gweithgynhyrchu gwydn, gwerth uchel gyda gweithlu medrus a hyblyg iawn sy’n gallu darparu’r cynhyrchion, y gwasanaethau a’r technolegau sydd eu hangen ar gyfer economi Cymru yn y dyfodol. Mae hefyd yn mynd i’r afael â materion pwysig fel newid yn yr hinsawdd a’r angen i ddatgarboneiddio ac addasu i newidiadau technolegol, gan gynnwys awtomeiddio, digideiddio ac amgylchedd mwy cysylltiedig.

“Ddoe, croesawodd Cymru gyngor dur y Deyrnas Unedig. Yn ystod y cyfarfod, cododd Gweinidog yr Economi bwysigrwydd hanfodol cadw swyddi gweithgynhyrchu sgiliau uchel yng Nghymru.”