Mae Cymdeithas y Cymod wedi condemnio cynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig i anfon ceiswyr lloches i Rwanda ar drothwy’r hediad cyntaf heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 14).

Mae disgwyl i saith neu wyth o bobol gael eu symud ddydd Mawrth, ar ôl i ddwsinau ennill achosion cyfreithiol i’w tynnu oddi ar y gofrestr. Mae mwy o heriau cyfreithiol ar fin cael eu clywed.

Mae Cymdeithas y Cymod, sy’n rhan o fudiad heddwch rhyngwladol IFOR, wedi disgrifio’r cynllun fel un “cwbl anfoesol”.

“Fi ddim yn credu mai dyma yw’r ffordd fwyaf ymarferol o groesawu ffoaduriaid,” meddai Rhun Dafydd, Cadeirydd Cymdeithas y Cymod wrth golwg360.

“Fi’n credu os wyt ti’n edrych ar bolisi Llywodraeth Cymru sydd eleni wedi dweud eu bod nhw moyn bod yn genedl noddfa, mae’n mynd yn gwbl groes i hynna.

“Er bod o ddim yn rhywbeth mae Llywodraeth Cymru wedi ei benderfynu, mae yna le iddyn nhw alw yn erbyn o.

“Bysen nhw’n gallu gwneud mwy i groesawu ffoaduriaid o bob cefndir i Gymru.”

Ystyried rôl Prydain mewn rhyfeloedd

Mae Cymdeithas y Cymod yn credu bod ffyrdd gwell o ddelio â’r sefyllfa er lles y mewnfudwyr, ac yn economaidd.

“Mae fe’n amlwg yn gwbl anfoesol ond fi’n credu hefyd os chi’n edrych ar yr ochr ariannol, mae yna ffordd lot fwy economaidd gall mewnfudwyr cael eu hedrych ar ôl hefyd,” meddai Rhun Dafydd.

“Fi’n credu mae angen edrych ar y broblem ehangach. I ddechrau, mae angen edrych ar lefel Ewropeaidd fel ein bod ni ddim yn gorfod cyrraedd y pwynt yma a’u bod nhw ddim yn gorfod peryglu eu bywydau i ddod dros y sianel.

“Ond mae hefyd angen edrych ar y rhesymau pam fod pobol yn ffoi eu gwlad a rhan fwyaf yr amser rhyfeloedd yw’r rheswm.

“Falle rôl ni ym Mhrydain a’r diwydiant arfau ym Mhrydain ac yn Ewrop sydd yn gyrru hwnna wrth anfon arfau ac ymwneud â rhyfeloedd ar draws y byd.”

Pryder dros bobol LHDTC+

Mae pryderon hefyd wedi codi dros ddyfodol pobol LHDTC+ fydd yn cael eu gorfodi i symud i Rwanda.

Er nad yw bod yn rhan o’r gymuned LHDTC+ yn anghyfreithlon yn Rwanda, mae’n cael ei ystyried yn bwnc tabŵ yno.

“Yn y bôn, mae ffoaduriaid yn dianc o ble nhw’n byw oherwydd bod eu bywydau mewn perygl. Felly, mae’n rhoi nhw mewn perygl eto pan ddylai ffoaduriaid gael croeso i rywle mwy diogel,” ychwanega Rhun Dafydd.

‘Ymateb creulon ac annynol’

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi condemnio’r polisi hefyd, gan ddweud bod heddiw’n ddiwrnod tywyll i’r Deyrnas Unedig.

“Mae’r polisi hwn yn nodi isafbwynt newydd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig – ac mae’n ymateb creulon ac annynol i’r rhai sy’n chwilio am ddiogelwch a noddfa yn ein gwlad,” meddai Mark Drakeford.

“Mae’n mynd yn gwbl groes i safle Cymru fel cenedl noddfa.”

‘Methu gwybod gwerth dynoliaeth’

Mae Liz Saville Roberts, Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi galw’r cynllun yn un “anfoesegol” hefyd, a chroesawu beirniadaeth Mark Drakeford.

“Mae’n gwadu ein hawl yng Nghymru i gynnig ein cefnogaeth a’n cydsafiad gyda ffoaduriaid wrth i ni weithio i ddod yn Genedl Noddfa,” meddai Liz Saville Roberts.

“Nod ein cynllun cenedl noddfa yw sicrhau bod ceiswyr lloches, a dyfynnaf: ‘yn cael eu cefnogi i ailadeiladu eu bywydau a gwneud cyfraniad llawn i gymdeithas Cymru’.

“Sut mae’r polisi anfoesegol hwn yn cyd-fynd â’n nod?

“Dw i’n falch bod pennaeth ein llywodraeth yng Nghymru wedi cymryd safiad egwyddorol.

“Ond dw i’n siomedig nad yw ei arweinydd, Keir Starmer, wedi condemnio’r cynllun unwaith am ei annynoldeb, a’i fod, yn hytrach, wedi canolbwyntio ar ei gost.

“Mae hi’n bosib gwybod cost popeth, ond methu â gwybod gwerth dynoliaeth.”