Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun er mwyn cael gwared ar heintiadau HIV newydd erbyn 2030.

Bydd y cynllun drafft 2023-26 yn anelu tuag at wella ansawdd bywyd a rhoi terfyn ar stigma o amgylch HIV erbyn 2030 hefyd.

Heddiw (Mehefin 14), mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid o £3.9m i ddatblygu profion HIV ar-lein ymhellach, yn dilyn llwyddiant cynyddol y cynllun yn ystod y pandemig. Cafodd mwy o bobol eu profi am HIV rhwng Ionawr a Mawrth 2022 nag yn ystod unrhyw chwarter blwyddyn cyn hynny.

Rhwng 2015 a 2021, gwelodd Cymru ostyngiad o 75% yn y nifer a gafodd ddiagnosis newydd o HIV, ac un ffactor “arwyddocaol” yn ôl Llywodraeth Cymru, oedd eu hymrwymiad i ddarparu PrEP, meddyginiaeth anti-feiral sy’n gallu atal pobol rhag cael HIV yn y lle cyntaf, i unrhyw un ag angen clinigol.

Yn 2021 cafodd 48 o bobl o’r newydd ddiagnosis o haint HIV yng Nghymru a chafodd tua 2,800 o bobl ofal am HIV yng Nghymru.

‘Dim lle i anwybodaeth nac anoddefgarwch’

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: “Rydym wedi dod yn bell ers dyddiau tywyll yr 1980au – a ddarluniwyd mor gofiadwy y llynedd yn It’s a Sin ar Channel 4 – pan oedd anwybodaeth a chreulondeb tuag at bobl â HIV yn beth cyffredin.

“Does dim lle i anwybodaeth nac anoddefgarwch yn y Gymru fodern ac mae’r cynllun hwn yn amlinellu camau gweithredu i fynd i’r afael â hyn.

“Gan weithio gyda phartneriaid, rydym wedi gwneud cynnydd aruthrol o ran gwella mynediad at brofion a thriniaeth yng Nghymru ac rydym yn falch o’r gostyngiad sylweddol yn y nifer sy’n cael diagnosis newydd o HIV.

“Mae mwy i’w wneud, a thrwy weithredu’r camau hyn gallwn wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl sy’n byw gyda HIV ac i ddiogelu cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol rhag y feirws. Rwy’n annog unrhyw un sy’n byw gyda HIV neu sydd â phrofiad o weithio gyda phobl sydd â’r feirws i gymryd rhan yn ein hymgynghoriad.”

Camau gweithredu

Mae’r cynllun newydd yn cynnwys 26 o gamau i ddileu HIV, gan gynnwys sicrhau mwy o fynediad at PrEP a chondomau, cael gwared ar rwystrau rhag profi, a chreu rhaglen ymwybyddiaeth o HIV a’i chyflwyno i gwricwlwm ysgolion.

Yn dilyn llwyddiant Fast Track Caerdydd a’r Fro, cynllun cydweithredol rhwng cyrff cyhoeddus a greodd Wythnos Profi HIV Cymru ac a dreialodd wasanaethau newydd, mae’r cynllun hefyd yn argymell cyflwyno cynllun llwybr carlam cydweithredol ar gyfer Cymru gyfan.

Y nod yw gwneud Cymru’n Genedl Llwybr Carlam, gan gefnogi rhwydweithiau rhanbarthol o grwpiau iechyd, gofal cymdeithasol a chymunedol i helpu i gyrraedd y nod o ddim diagnosis newydd o HIV a dim stigma erbyn 2030.

“Rydym yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod mai cydweithio a chynhwysiant yw’r ffordd ymlaen ac wedi ymrwymo i annog ffyrdd newydd o weithio,” meddai Gian Molinu, Cadeirydd Fast Track Caerdydd a’r Fro.

“Mae’n hanfodol bod pobl sydd â HIV a’r cymunedau sy’n gweld yr effaith fwyaf yn cael dweud eu dweud yn y cynlluniau hyn, felly rydym yn annog pobl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.”

Defnyddio’r opera i roi stop ar y stigma o amgylch HIV

Cadi Dafydd

Opera Cenedlaethol Cymru yn anelu tuag at gydweithio â chymunedau dros Gymru er mwyn codi ymwybyddiaeth o brofiadau pobol sy’n byw â HIV

“Mae yna feddyginiaeth i drin HIV, ond ddim y stigma”

Jacob Morris

Er bod deugain mlynedd ers i’r achosion HIV/AIDS cyntaf ymddangos yn yr 1980au, mae’n parhau i fod yn destun tabŵ

Galw am “ddull mwy cadarn” gan Lywodraeth Cymru er mwyn dileu achosion newydd o HIV erbyn 2030

“Rhaid i’r gwaith barhau er mwyn rhoi diwedd ar y stigma a chael gwared ar yr afiechyd hwn unwaith ac am byth”