Mae angen mynd i’r afael â chladin peryglus mewn adeiladau yng Nghymru ar fwy o frys, meddai’r Ceidwadwyr Cymreig.

Bum mlynedd i heddiw (Mehefin 14), bu farw 72 o bobol yn nhrychineb Twr Grenfell yn Llundain.

Ers hynny, mae hi wedi dod i’r amlwg bod diffygion i ddiogelwch tân mewn nifer o fflatiau yng Nghymru, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i dalu i ailgladio tai cymdeithasol.

Maen nhw hefyd wedi dweud mai datblygwyr adeiladau, nid lesddeiliaid na thenantiaid preifat, ddylai dalu costau atgyweirio, ond mae golwg360 wedi clywed gan lesddeiliaid sy’n parhau i orfod ysgwyddo’r baich ariannol hwnnw.

‘Gweithredu rhy araf’

Wrth i ni gofio’r rhai fu farw yn nhân Grenfell, rhaid i ni beidio ag anghofio’r realiti bod yna bobol yng Nghymru dal yn byw mewn fflatiau gyda chladin peryglus, meddai’r Ceidwadwyr Cymreig.

Yn ôl data gafodd ei ryddhau iddyn nhw dan Gais Rhyddid Gwybodaeth, fe wnaeth Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Newid Hinsawdd gyfarfod datblygwyr tai deirgwaith am gyfanswm o ddwy awr a hanner yn ystod 2021.

“Mae Gweinidogion Llafur ym Mae Caerdydd wedi bod yn rhy araf yn gweithredu, gydag arian gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael ei ddyrannu’n anghywir i ddiogelwch adeiladau yng Nghymru,” meddai Janet Finch-Saunders, llefarydd tai’r Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae Gweinidogion Llafur wedi bod rhy araf o lawer yn gweithredu, a nawr mae angen sicrhau bod cyllid yn cael ei ddyrannu’n sydyn ac yn effeithiol.”

‘Cyfundrefn ddiogelwch gynhwysol’

Mewn datganiad heddiw, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, bod digwyddiadau Mehefin 14 2017 yn “ein hatgoffa’n gyson o bwysigrwydd cartref diogel”.

“Mae hyn wrth wraidd ein gwaith parhaus i atgyweirio a diwygio diogelwch adeiladau yng Nghymru,” meddai Julie James.

“I ni, nid yw’r gwersi o Grenfell wedi’u cyfyngu i gael gwared ar gladin peryglus nac i adeiladau uchel yn unig. Maent yn ymestyn i roi terfyn ar y system safonau diogelwch a rheoleiddio a oedd yn caniatáu i gorneli gael eu torri.

“Nid bai tenantiaid na lesddeiliaid yw hyn ac ni ddylent orfod talu costau atgyweiriadau. Mater i ddatblygwyr yw ysgwyddo eu cyfrifoldebau ac atgyweirio’r adeiladau yr effeithiwyd arnynt a adeiladwyd ganddynt. Mae’r egwyddorion craidd hyn yn berthnasol ar draws ein rhaglen diogelwch adeiladu.

“Rydym wedi mabwysiadu ffordd o weithio eang a sylfaenol o gyweirio problemau adeiladu sy’n bodoli eisoes. Mae ein gwaith yn mabwysiadu dull adeilad cyfan, gan gynnwys mynd i’r afael â methiannau compartmentau a, lle bo’n ymarferol, gosod systemau llethu tân.

“Rydym hefyd yn datblygu rhaglen ddiwygio sylweddol a fydd yn arwain at ddeddfwriaeth gynhwysfawr yn ddiweddarach y tymor hwn. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod adeiladau’r dyfodol yn ddiogel ac wedi’u hadeiladu’n dda.

“Rydym yn rhoi lleisiau pobol wrth wraidd ein diwygiadau a byddwn yn darparu cyfundrefn diogelwch adeiladau gynhwysfawr sy’n sicrhau bod adeiladau’n cael eu hadeiladu yn ôl safonau diogelwch trwyadl ac yn rhoi hyder i breswylwyr eu bod yn byw mewn cartrefi diogel.”

Tŵr Grenfell a fflamau a mwg yn codi ohono

Anghofio am lesddeiliaid Cymru

Kelly Wood

Yr ymgyrchydd Kelly Wood sy’n trafod sefyllfa lesddeiliaid sy’n gorfod talu am wella diffygion diogelwch tân mewn fflatiau

“Angen eglurdeb a datrysiad ar frys i’r argyfwng cladin sy’n wynebu lesddeiliaid”

Cadi Dafydd

“Dyw pobol methu talu’r biliau hyn. Maen nhw’n achosi problemau iechyd meddwl anferth,” meddai un lesddeilydd wrth golwg360