Mae datblygwyr tai yn Lloegr wedi cytuno i dalu am wneud gwelliannau i ddiffygion diogelwch tân ddaeth i’r amlwg ar ôl trasiedi Grenfell. Dydyn nhw heb ddod i’r un cytundeb yng Nghymru, ac mae Kelly Wood, sy’n ymgyrchydd sy’n codi llais dros lesddeiliad Cymru, yn trafod goblygiadau hynny i lesddeiliaid yng Nghymru.
Mae yna 58 mis wedi pasio ers i 72 o bobol farw yn nhrasiedi erchyll Grenfell ar ôl i dân ddechrau yn y tŵr. Ers y trasiedi, mae hi wedi dod i’r amlwg bod pobol yn byw mewn blociau o fflatiau peryglus yn sgil diffygion diogelwch tân.
Dw i’n berchen ar fflat ym Mae Caerdydd, a gafodd ei brynu gan Redrow yn 2007, ac ers trasiedi Grenfell yn 2017, mae hi wedi dod i’r amlwg bod yna nifer o ddiffygion diogelwch tân yn y fflatiau.
Mae Bil Diogelwch Adeiladau’r Deyrnas Unedig (BSB) wedi cael ei ddiwygio am y tro cyntaf ers 40 mlynedd er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng cladin a diogelwch adeiladu, a bydd yn dod yn gyfraith yn fuan.
Yn Lloegr, mae adeiladwyr tai wedi cytuno i wella materion diogelwch hanfodol ar adeiladau 11 medr o uchder a throsodd lle mae angen gwneud gwaith lliniaru er mwyn mynd i’r afael â materion diogelwch tân hollbwysig ac sydd wedi cael eu hadeiladu neu eu hadnewyddu yn y 30 mlynedd cyn Ebrill 5, 2022. Maen nhw wedi cytuno i ad-dalu arian trethdalwyr fydd yn cael ei wario ar wneud yr adeiladau hyn yn ddiogel hefyd.
Yn Lloegr, mae lesddeiliaid wedi cael sicrwydd na fydd rhaid iddyn nhw dalu ceiniog i drwsio cladin peryglus. Dydy’r amddiffynfeydd ar gyfer lesddeiliaid a fydd yn dod yn rhan o’r gyfraith yn Lloegr drwy’r Bil Diogelwch Adeiladau ddim yn berthnasol i Gymru ar y funud.
Bydd hyn yn golygu bod nifer o lesddeiliaid yng Nghymru yn parhau i wynebu heriau i’w hiechyd meddwl ac yn parhau i wynebu biliau uchel gyda’r perygl o fynd yn fethdaledig wrth iddyn nhw orfod parhau i dalu i wella diffygion diogelwch tân wrth aros i drydydd parti, boed hynny’n ddatblygwr neu Lywodraeth Cymru, dalu. Gallai hynny gymryd nifer o flynyddoedd.
Mae Llywodraeth Cymru dal i gynnal arolygon annibynnol i adnabod adeiladau, a bydd hynny’n helpu i sicrhau bod unrhyw arian sy’n cael ei ddarparu o fewn y swm sydd ei angen ar gyfer gwella ac addasu adeiladau i’w gwneud nhw’n ddiogel.
Dw i’n cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi gosod £375m mewn arian cyfalaf ar un ochr dros y tair blynedd nesaf i gefnogi buddsoddiad yn yr adeiladau sy’n cael eu heffeithio gan hyn, fodd bynnag, dyw hyn ddim yn stopio costau gwelliannau tân rhag cael eu pasio at lesddeiliaid ar y funud gan nad yw’r Bil Diogelwch Adeiladau mewn grym yng Nghymru. Dyw hi ddim yn ymddangos fel bod unrhyw wybodaeth i awgrymu y bydd yr amddiffynfeydd i lesddeiliaid yn berthnasol i Gymru chwaith.
Anghofio am lesddeiliaid Cymru
Mae Redrow yn cytuno mewn egwyddor na ddylai lesddeiliaid orfod talu unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â’r gwaith o wneud gwelliannau diogelwch tân hollbwysig sy’n codi yn sgil dyluniad, gwaith adeiladu, neu waith adnewyddu mewn adeiladau dros 11 medr. Maen nhw eisiau gweithio’n adeiladol gyda pherchnogion adeiladau i lwyddo i wneud hyn.
Dw i ddim yn siŵr sut y gall Redrow gyfiawnhau’r ffaith eu bod nhw’n barod i wneud gwelliannau i adeiladau dros 11m yn Lloegr, ond nid yng Nghymru.
Mae Michael Gove, Ysgrifennydd Gwadol Tai Lloegr, wedi rhybuddio y gallai datblygwyr sy’n gwrthod cyfrannau i drwsio cladin peryglus gael eu hatal rhag gwerthu tai newydd, ac mae disgwyl iddyn nhw gael eu henwi.
Mae’r agwedd llym sydd wedi cael ei chymryd gan Michael Gove a’i adran wedi gorfodi datblygwyr yn Lloegr i weithredu, a bydd y pwerau yn y Bil Diogelwch Adeiladau’n rhoi’r grym iddo stopio cwmnïau a fethodd ag arwyddo’r ymrwymiad rhag gwerthu tai.
Mae lesddeiliaid yn erfyn ar Lywodraeth Cymru i gopïo agwedd llym Lloegr, ac yn annog Llywodraeth Cymru i wahodd datblygwyr i gyfarfod ar y mater ar unwaith.
Mae lesddeiliaid yng Nghymru’n teimlo eu bod nhw’n cael eu hanghofio, er eu bod nhw’n gwneud y peth iawn ac mewn perygl o golli eu cartrefi.
Yn ogystal, mae lesddeiliaid angen cadarnhad ynghylch pryd fydd y Bil Diogelwch Adeiladau’n dod yn gyfraith yng Nghymru, mae lesddeiliaid yn Lloegr wedi cael gwybod y bydd y Bil yn dod yn gyfraith ddeufis ar ôl derbyn Cydsyniad Brenhinol.