Mae rheolwyr Dŵr Cymru wedi gwobrwyo eu hunain efo gwerth dros £930,000 o daliadau bonws dros y dwy flynedd ddiwethaf, yn ôl ystadegau newydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.
Rhwng 2020 a 2021, fe wnaeth Dŵr Cymru bwmpio carthion i afonydd Cymru dros 100,000 o weithiau, meddai’r blaid.
Yn sgil hynny, maen nhw’n galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd rheolwyr Dŵr Cymru rhag cael tâl ychwanegol nes bod troseddau yn ymwneud â charthion yn dod i stop.
Yn ôl eu dadansoddiad o gofnodion Dŵr Cymru, cafodd y rheolwyr eu talu £2.6m yn 2020 a 2021, gan gynnwys £931,000 mewn taliadau ychwanegol, budd-daliadau a chymelldaliadau.
Fe wnaeth rheolwyr Severn Trent, sy’n gyfrifol am rannau o’r gogledd a’r canolbarth, wobrwyo eu hunain â gwerth £5.56m o daliadau ychwanegol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, hefyd.
‘Cwffio i oroesi’
Dylai Dŵr Cymru a Severn Trent ad-dalu gwerth y taliadau ychwanegol gafodd eu gwneud llynedd, a defnyddio’r arian i lanhau afonydd a llynnoedd sydd wedi cael eu llygru â charthion heb eu trin, meddai’r Democratiaid Rhyddfrydol.
“Mae Llafur yng Nghymru a’r Ceidwadwyr yn Lloegr yn caniatáu i gwmnïau dŵr bwmpio carthion heb eu trin i’n hafonydd a’n llynnoedd gwerthfawr tra’n gwobrwyo eu hunain a bonysau anfoesol,” meddai Jane Dodds, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.
“Dw i wedi gwylio fy afon leol, Afon Gwy, yn cwffio i oroesi. Dim ond dwy flynedd sydd gan yr afon nes y bydd hi’n cael ei datgan yn fiolegol farw. Ni fedrwn ni aros mwy cyn gweithredu.
“Byddai cynlluniau’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ar gyfer gwaharddiad bonws yn atal rheolwyr cwmnïau dŵr rhag cael yr un geiniog yn chwaneg mewn tâl ychwanegol nes bod ein dyfroedd yn cael eu gwarchod rhag carthion.
“Dylai’r rheolwyr hyn orfod ad-dalu’r miliynau o bunnoedd y maen nhw wedi’u derbyn yn barod er mwyn helpu i lanhau eu llanast.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Er bod y diwydiant dŵr ledled Cymru a Lloegr wedi’i breifateiddio, rydym yn gweithio’n agos gyda chwmnïau sy’n gweithredu yma i leihau llygredd, i sicrhau eu bod yn cadw at ein rheoliadau o safon uchel ac i gyflenwi dwr yfed o’r ansawdd gorau,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Rydyn ni’n gwybod bod angen amddiffyn ein cyrff dŵr er mwyn i’n cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol allu byw mewn Cymru lewyrchus, hapus ac iach.
“Dim ond trwy gydweithio y gallwn ni fynd i’r afael â’r risgiau llygredd lluosog y mae ein llynnoedd, ein hafonydd a’n nentydd yn eu hwynebu.
“Mae Ofwat wedi pennu’r disgwyliad i gwmnïau ddarparu esboniadau cadarn a chlir o gyflog swyddogion gweithredol sy’n gysylltiedig â pherfformiad.”