Mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith wedi bod yn codi baneri’n datgan nad yw Cymru ar werth wrth i’r tymor gwyliau ddechrau dros y penwythnos.

Cafodd ymgyrchoedd eu cynnal yng Ngwynedd, Ynys Môn, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro dros y Pasg er mwyn ymgyrchu yn erbyn ail dai a thai gwyliau.

Dywedodd llefarydd ar ran yr ymgyrchwyr bod dangos baneri yn y ddwy iaith yn golygu eu bod nhw’n gallu “cyrraedd pobol sydd efallai’n meddwl am brynu tŷ haf neu gydag un yn barod”.

“Dim ond rhan o’r broblem yw ail dai, ond mae’n amserol i dynnu sylw at ail dai, â hithau’n ddechrau’r tymor gwyliau, ac roedd y ffyrdd y brysur iawn,” meddai.

“Roedd tipyn o gefnogaeth hefyd – pobol yn codi llaw ac yn canu corn.

“Mae’r broblem tai yn rhywbeth sy’n achos pryder i nifer fawr o bobl.”

Un o faneri’r ymgyrchwyr yn chwifio dros y Fenai oddi ar Bont Borth

Mae data diweddar wedi dangos bod llety gwyliau yn cyfrannu chwe gwaith yn fwy i’r gymuned leol na thai haf, a daeth sefyllfa dai Sir Benfro i amlygrwydd eto’n ddiweddar wedi i Dr Alex George, cyn-gystadleuydd ar Love Island, brynu pedwar tŷ yno gyda’r bwriad i dri ohonyn nhw fod yn fythynnod gwyliau.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae hi’n bryder bod rhywun yn gallu prynu tŷ gwyliau, heb sôn am fwy nag un, mewn sir sydd â chynnydd mawr mewn prisiau’n barod.

Mewn ymdrech i fynd i’r afael â’r argyfwng tai, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymo fis diwethaf i roi’r pŵer i gynghorau sir gynyddu premiwm treth cyngor i 300% ar gyfer llety gwyliau ac eiddo gwag hirdymor, a diwygio’r system dreth ar gyfer lletyau gwyliau.

300%: Cyhoeddi rheolau treth newydd ar gyfer ail gartrefi

Gwern ab Arwel

“Y syniad efo hyn ydy bod cynghorau yn gallu defnyddio’r arian er mwyn creu cartrefi i bobol yn eu cymunedau,” meddai Siân Gwenllian wrth golwg360