Mae Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, wedi cadarnhau bod cynllun Bwrsariaeth y Gwasanaeth Iechyd wedi cael ei ymestyn i gynnwys myfyrwyr fydd yn astudio yn ystod y flwyddyn academaidd 2023-24.

Mae’r cynllun ar agor i nyrsys, bydwragedd a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill sy’n ymrwymo i astudio yng Nghymru am hyd at ddwy flynedd ar ôl cymhwyso.

Bwriad y fwrsariaeth yw talu ffioedd dysgu a chostau byw’r myfyrwyr.

Mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu cynnal ymgynghoriad ar y ffordd orau o gefnogi myfyrwyr sy’n astudio ym maes iechyd yng Nghymru er mwyn sicrhau eu bod nhw’n parhau i ddenu’r myfyrwyr gorau a mwyaf galluog.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i fuddsoddi yn hyfforddiant ein nyrsys, ein bydwragedd a’n gweithwyr proffesiynol hynod fedrus eraill sy’n gweithio yn ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol,” meddai Eluned Morgan.

“Mae’r estyniad pellach hwn o fwrsariaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau cynaliadwyedd gweithlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn y dyfodol. Rydyn ni’n falch o barhau â’r fwrsariaeth sydd wedi helpu cymaint o bobol i gymhwyso a gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gan ofalu am bobol yng Nghymru.

“Rydyn ni’n parhau i weithio’n galed i ddenu mwy o weithwyr gofal iechyd proffesiynol i Gymru drwy ein hymgyrch Hyfforddi, Gweithio, Byw.”

‘Denu gweithwyr iechyd medrus’

Cafodd ei sylwadau eu hategu gan Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg Cymru.

“Bydd ymestyn y fwrsariaeth yn helpu i ddenu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol medrus i Gymru ac i’w cadw ar ôl iddyn nhw fod yn astudio yma,” meddai.

“Mae’r fwrsariaeth yn ategu ein pecyn ariannu ar gyfer myfyrwyr, sydd wedi’i wella – yr un mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig.”

Mae Prif Swyddog Nyrsio Cymru hefyd wedi croesawu’r cyhoeddiad.

Ychwanegodd Sue Tranka, Prif Swyddog Nyrsio Cymru:

“Rwy’n falch iawn ein bod unwaith eto’n ymestyn bwrsariaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol,” meddai Sue Tranka.

“Un o’m blaenoriaethau yw denu, recriwtio a chadw gweithlu brwdfrydig a medrus ac mae’r fwrsariaeth yn atgyfnerthu hyn.”