Bydd Tsieina yn anfon swyddogion i Ynysoedd Solomon fis nesaf i lofnodi cytundeb cydweithio, ond mae gwledydd megis yr Unol Daleithiau, Awstralia a Seland Newydd wedi mynegi pryderon am ymyrraeth filwrol bosib gan Beijing.

Mae’r cytundeb diogelwch yn golygu y bydd hawl gan heddlu Tsieina i warchod isadeiledd a chyfraith a threfn.

Yr wythnos ddiwethaf, teithiodd un o weinidogion Awstralia i’r ynysoedd i ofyn i’r prif weinidog Manasseh Sogavare i ailystyried llofnodi’r cytundeb, gan eu bod nhw’n gofidio y gallai arwain at bresenoldeb milwrol gan Tsieina ar yr ynysoedd.

Mae disgwyl i gynrychiolwyr o’r Unol Daleithiau deithio yno yr wythnos hon hefyd, ac y bydd llysgenhadaeth yn cael ei hailagor yno yr un pryd.

Yn sgil y cytundeb, bydd y ddwy wlad yn cynyddu eu cysylltiadau masnach, addysg a physgodfeydd, ond mae’r llywodraethau’n wfftio’r posibilrwydd o godi safle milwrol i Tsieina ar yr ynysoedd.