Mae disgwyl i Boris Johnson, prif weinidog y Deyrnas Unedig, ymddiheuro wrth San Steffan heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 19), ar ôl iddo fe gael dirwy yn sgil partïon yn Downing Street yn groes i gyfyngiadau Covid-19.
Ers i’r helynt ddod i’r amlwg, fe fu nifer yn ei feirniadu ac eraill, gan gynnwys Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, yn galw am ei ymddiswyddiad.
Dywedodd Liz Saville Roberts ei bod hi’n “amlwg ei fod â diffyg crebwyll moesegol i’w ymddiried gyda chronfeydd sy’n cynnal bywyd cyhoeddus”.
Describe the PM
Brandon Lewis: ‘apologist blindsided by his own laws’
The rest of us: ‘liar’ pic.twitter.com/JZ4nLOx2pc
— Liz Saville Roberts AS/MP ??????? (@LSRPlaid) April 19, 2022
Cafodd e ddirwy yr wythnos ddiwethaf am fynd i’w barti pen-blwydd ei hun ym mis Mehefin 2020, ar adeg pan nad oedd gan aelwydydd yr hawl i gymysgu â’i gilydd.
Mae e wedi cael ei gyhuddo o gamarwain y Senedd, ar ôl iddo fynnu ei fod e a’i staff wedi cadw at y rheolau drwy gydol y pandemig.
Yn ôl Brandon Lewis, Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, roedd y prif weinidog “yn siarad yr hyn yr oedd e’n credu oedd y gwir”, ac fe ddywedodd Boris Johnson ei hun nad oedd “wedi ei daro” ei fod e’n torri’r rheolau ar y pryd ond ei fod e bellach yn derbyn mai dyna roedd e’n ei wneud.
Ym mhob rhan o Brydain bydd pobl wedi gweiddi at y radio wrth i Brandon Lewis AS ddwyn cywilydd ac anfri arno'i hun ar Today R4 trwy geisio amdiffyn Boris Johnson Dylai ASau'r Toriaid ddeall nad ffawd Johnson sydd yn y fantol rwan ond eu hygreddedd personol nhw efo'r etholwyr
— Hywel Williams AS/MP (@HywelPlaidCymru) April 19, 2022
Mae disgwyl i’r gwrthbleidiau drafod a fyddan nhw’n ceisio ei geryddu, naill ai drwy gynnig pleidlais o ddirmyg senedd, neu ei gyfeirio at bwyllgor seneddol i ymchwilio i’w ymddygiad.
Mae’r pwysau arno oddi mewn i’r Blaid Geidwadol wedi lleddfu rywfaint yn sgil y rhyfel yn Wcráin, er bod rhywrai wedi galw am ei ymddiswyddiad eisoes.
Ymhlith y rhai fu’n ei amddiffyn mae David TC Davies, Aelod Seneddol Mynwy, sy’n dweud nad oes “neb arall” all wneud swydd y Prif Weinidog yn well na Boris Johnson.