Does “neb arall” all wneud swydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn well na Boris Johnson, yn ôl David TC Davies, Dirprwy Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Daw hyn yn sgil galwadau gan yr wrthbleidiau am ei ymddiswyddiad yn sgil derbyn dirwy gan Heddlu Llundain yn dilyn partïon yn Downing Street.
A bore heddiw (dydd Iau, Ebrill 14), fe wnaeth yr Arglwydd David Wolfson ymddiswyddo o’i rôl yn Weinidog Cyfiawnder yn San Steffan, a hynny yn sgil y torcyfraith yn Rhif 10 Downing Street.
Wfftio arwyddocâd yr ymddiswyddiad wnaeth David TC Davies, gan ddweud wrth golwg360 fod “pobol yn ymddiswyddo drwy’r amser”.
“Dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig cael y cyd-destun gyda’r holl beth,” meddai.
“Mae’r Prif Weinidog wedi mynd allan ac wedi cael diwrnod prysur, yna mae rhai o’r bobol sy’n gweithio gydag ef beth bynnag wedi dymuno pen-blwydd hapus iddo fe.
“Maen nhw’n gweithio gyda fe drwy’r dydd beth bynnag, dyw hi ddim fel petai e wedi gwahodd pobol i mewn.
“Os ydych chi’n gofyn os ydw i yn mynd i ymddiswyddo, yr ateb ydi nac ydw ddim o gwbl.
“Mae yna bethau llawer iawn mwy pwysig yn fy mhoeni i ar hyn o bryd fel y sefyllfa yn Wcráin.
“Mae’r diwylliant (o yfed yn Rhif 10) yn fy mhoeni i ychydig bach, ond dyw’r Prif Weinidog ddim rili yn gyfrifol am y diwylliant yna.
“Mae’r rhan fwyaf o bobol sydd wedi cael dirwy yn gweithio i’r gwasanaeth sifil ac mae’n anodd deall hynny os nad ydych chi’n gweithio o fewn y system.
“Dydyn nhw ddim yn atebol i’r Prif Weinidog, mae’r Prif Weinidog yn rhedeg swyddfa hollol wahanol.
“Dw i fel Gweinidog yn Swyddfa Cymru ddim yn gallu disgyblu aelodau o’r gwasanaeth sifil sy’n gweithio yn fy swyddfa i… mae’r gwasanaeth sifil yn hollol wahanol i Aelodau Seneddol a Gweinidogion.
“Ond mae’n wir fod yna ychydig o ddiwylliant (yfed) yn bodoli o gwmpas San Steffan, mae pobol yn gwybod hynny ers blynyddoedd.”
‘Boris Johnson heb ddweud celwydd wrth y siambr’
Mae David TC Davies yn gwadu bod y ffaith fod y Prif Weinidog wedi derbyn dirwy gan Heddlu Llundain yn profi ei fod wedi dweud celwydd wrth siambr Tŷ’r Cyffredin.
“Ddim o gwbl,” meddai.
“Fe ddywedodd wrth y siambr – yn ei farn ef – ei fod yn siŵr ei fod wedi dilyn y rheolau achos yr hyn sydd wedi digwydd – cyn belled ag yr ydw i’n deall – yw ei fod wedi dod i mewn i’r tŷ (Rhif 10 Downing Street) a bod rhai o’r bobol sydd wedi gweithio gyda fe beth bynnag wedi dweud pen-blwydd hapus wrtho.
“Ond os bydden nhw jyst wedi cwrdd gyda fe i drafod busnes, byddai hynny yn iawn.
“Does dim llawer yn fwy y galla i ei ddweud, a bod yn onest.
“Mae gennym ni swydd bwysig i’w gwneud ar hyn o bryd, a dw i jyst eisiau sicrhau bod y Prif Weinidog yn gallu parhau i wneud y swydd.
“Dw i ddim yn gallu meddwl am unrhyw un arall sy’n gallu gwneud y swydd yn well na fe.”