Mae caniatâd cynllunio wedi’i roi ar gyfer cerflun yn Llangrannog i gofio am Cranogwen fel rhan o’r prosiect Monumental Welsh Women.

Mae hwn yn un o bum cerflun sy’n dathlu cyfraniad menywod i fywyd yng Nghymru, ac fe fydd yn cael ei godi yng Ngerddi Coffa Llangrannog.

Roedd Sarah Jane Rees, oedd yn cael ei hadnabod wrth ei henw barddol Cranogwen, yn forwr, bardd, newyddiadurwraig, pregethwr ac ymgyrchydd, a’r ferch gyntaf i ennill y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae swyddogion cynllunio Cyngor Sir Ceredigion wedi cymeradwyo’r cais ar gyfer caniatâd cynllunio llawn, sy’n cynnwys ailddylunio’r ardd a chodi’r ceflun 2.3m a’r plinth.

Bydd mynedfa newydd yn cael ei chreu, gan wella mynediad cerddwyr a diogelwch fel na fydd yn mynd allan i’r heol, a bydd carreg naturiol yn cael ei defnyddio gyda cherdd gan Cranogwen ar ymyl llwybr troellog canolog.

Bydd planhigion, waliau, seddi a phileri hefyd yn cael eu gosod wrth fynedfa’r ardd.

“Mae’r cais wedi’i farnu fel un sy’n golygu gwelliant i’r ardd gyhoeddus drwy ddyluniad priodol a deniadol i gofio ffigwr o bwys lleol a chenedlaethol,” meddai’r adroddiad cynllunio, gan ychwanegu ei fod yn cael ei “ystyried yn wellliant i’r tirlun agosaf ac ehangach”.

Mae Tîm Prosiect Cranogwen yn cynnwys cynrychiolwyr o Bwyllgor Lles Llangrannog, Monumental Welsh Women, Merched Mawreddog, Cofeb Cranogwen a Phrifysgol Aberystwyth.