Mae’r berthynas rhwng Mark Drakeford a Boris Johnson “bron wedi diflannu”, yn ôl Prif Weinidog Cymru, sy’n dweud bod “misoedd wedi mynd heb sgwrs o gwbl” rhwng y ddau.
Dyma’r datblygiad diweddaraf ym mherthynas y ddau arweinydd, sydd wedi dirywio’n barhaus ers dechrau pandemig y coronafeirws.
Mewn rhaglen ddogfen – Prif Weinidog mewn Pandemig – a gafodd ei darlledu ar S4C fis Mawrth y llynedd, dywedodd Prif Weinidog Cymru fod Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn “wir, wir ofnadwy” yn dilyn cyfarfod o’r pwyllgor argyfyngau Cobra.
Yn gynharach yn y rhaglen, dywedodd Mark Drakeford ei fod ef a Boris Johnson “yn bobol wahanol iawn”.
“Mae’r byd trwy lygaid Boris Johnson mor wahanol i’r byd mae pobol yng Nghymru yn ei weld,” meddai.
“Mae’n anodd weithiau i ddeall o ble mae e’n dod a pham mae e’n gwneud yr hyn mae’n ei wneud.”
Yn fwy diweddar – mis Ionawr 2022 – honnodd Mark Drakeford nad oedd gan Boris Johnson “awdurdod moesol” i arwain y Deyrnas Unedig.
Ac yn yr achos diweddaraf o anghydfod rhwng y ddau, mae Mark Drakeford wedi galw ar y Prif Weinidog a’r Canghellor i ymddiswyddo yn sgil y newyddion bod y ddau wedi cael dirwy am dorri rheolau’r cyfnod clo.
‘Misoedd wedi mynd heb sgwrs o gwbl’
“Ry’n ni’n dal i wneud pethau ry’n ni’n gwneud pob dydd gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, dwi am ysgrifennu at y Prif Weinidog heddiw am rywbeth hollol wahanol sy’n bwysig i ni yng Nghymru a ble mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gallu gwneud pethau i helpu ni, felly ry’n ni’i bwrw ymlaen gyda phethau pob dydd fel ’na,” meddai Mark Drakeford wrth BBC Radio Cymru.
“Dw i jyst ddim yn gallu cofio nawr pryd ges i’r cyfle i siarad gyda fe, mae misoedd wedi mynd heb sgwrs o gwbl.
“Ry’n ni’n sgwrsio gyda gweinidogion eraill yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig pob wythnos, ond mae cyfarfodydd gyda’r Prif Weinidog bron wedi diflannu.
“Mae’n fy mhoeni i oherwydd mae cytundeb newydd gyda ni am sut i redeg y perthnasau rhwng pedair llywodraeth (y Deyrnas Unedig).
“Mae pobol wedi gweithio’n galed i gael y cytundeb, roedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi pethau mas ar y diwrnod i ddweud fod e’n gam pwysig ymlaen.
“Ar ôl yr etholiadau yng Ngogledd Iwerddon, gobeithio bydd llywodraeth newydd yna i gael ni gyd dros y bwrdd gyda’n gilydd, mae hynny yn bwysig.”