Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, yn galw ar Boris Johnson a Rishi Sunak i ymddiswyddo.

Daw hyn yn sgil adroddiadau y bydd prif weinidog y Deyrnas Unedig a’r Canghellor yn cael dirwyon yn sgil partïon a gafodd eu cynnal yn Downing Street a Whitehall yn groes i gyfyngiadau Covid-19.

Dywedodd Heddlu Llundain yn gynharach heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 12) y bydd 30 yn rhagor o ddirwyon yn cael eu rhoi, yn ychwanegol at yr 20 a gafodd eu rhoi fis diwethaf.

Doedd yr heddlu ddim wedi cadarnhau pwy fyddai’n derbyn dirwyon, wrth i Downing Street ddweud y bydden nhw’n cadarnhau maes o law a oedd Boris Johnson yn eu plith.

Dydyn nhw ddim chwaith wedi rhoi rhagor o fanylion am y digwyddiadau dan sylw.

Mae’r dirwyon yn ymwneud â thorri rheolau penodol, yn hytrach na chanolbwyntio ar unigolion, sy’n golygu y gallai unigolion gael dirwy fwy nag unwaith.

Dydy’r heddlu ddim wedi wfftio’r posibilrwydd y bydd rhagor o ddirwyon yn cael eu cyhoeddi.

Mae lle i gredu bod yr heddlu’n ymchwilio i 12 o ddigwyddiadau lle gallai cyfyngiadau Covid-19 fod wedi cael eu torri yn adeiladau Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gan gynnwys tri digwyddiad lle’r oedd Boris Johnson yn bresennol.

Yn ôl y BBC, mae rhai o’r dirwyon yn ymwneud â pharti gadael aelod o staff yn Downing Street ar noswyl angladd Dug Caeredin ar Ebrill 16 y llynedd.

Daw’r dirwyon ar ôl i’r heddlu ddosbarthu holiadur i ofyn am ran pobol mewn digwyddiadau.

Cafodd y dirwyon cyntaf eu rhoi ar Fawrth 29.

Yn dilyn y cyhoeddiad, mae Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, wedi codi amheuon am “onestrwydd y prif weinidog” ar ôl iddo wadu bod unrhyw reolau wedi cael eu torri, tra bod Syr Ed Davey, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, yn galw am ei ymddiswyddiad.

Mae modd i unrhyw un sydd wedi derbyn dirwy dalu o fewn 28 diwrnod neu apelio ac os byddan nhw’n apelio, bydd yr heddlu’n cynnal adolygiad gan ddileu’r ddirwy neu’n trosglwyddo’r mater i’r llysoedd.

‘Y peth iawn i’w wneud’

Mae Liz Saville Roberts wedi ymateb i’r newyddion, gan alw ar Boris Johnson a Rishi Sunak, ill dau, i gamu o’r neilltu.

“Fe wnaeth y gweddill ohonom ddilyn y rheolau a gwneud aberthion allan o synnwyr o ddyletswydd ac oherwydd mai dyna oedd y peth iawn i’w wneud,” meddai.

“Dw i wedi fy ffieiddio gan benderfyniadau eithriadol o wael na ellir ond eu priodoli i synnwyr di-hid o ragoriaeth a chred yn eu hawliau eu hunain, dim ots am eu cyfrifoldebau fel arweinwyr.

“Rhaid galw’r senedd yn ei hôl.

“Os ydyn nhw’n anrhydeddus o gwbl, byddan nhw, ill dau, yn ymddiswyddo.”

Mae Mark Drakeford hefyd yn galw ar Boris Johnson i gamu o’r neilltu:

Galw ar Geidwadwyr Cymru i “ddangos asgwrn cefn”

Mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, yn galw ar Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, a Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, i “ddangos asgwrn cefn” drwy alw am ymddiswyddiadau Boris Johnson a Rishi Sunak.

“Mae Boris Johnson a Rishi Sunak wedi torri’r gyfraith ac wedi dweud celwydd dro ar ôl tro, rhaid iddyn nhw ymddiswyddo o’u swyddi ar unwaith,” meddai.

“Tra bod pobol yng Nghymru’n cadw at y rheolau ar gost bersonol fawr, roedd y rhai mewn grym yn credu eu bod nhw uwchlaw’r gyfraith.

“Fe ddaw hyn fel ergyd boenus i’r holl deuluoedd yng Nghymru sy’n galaru yn sgil Covid.

“Mae’r cyhoedd yng Nghymru’n haeddu llawer gwell.

“Er lles y wlad, rhaid i Boris Johnson a Rishi Sunak, ill dau, ymddiswyddo ar unwaith.

“Os yw’r Blaid Geidwadol am fod yn ddilys yng Nghymru, rhaid i Andrew RT Davies a Simon Hart ddangos asgwrn cefn a galw am ymddiswyddiadau ar unwaith.

“Ddylai’r un Aelod Seneddol Cymreig fod yn cefnogi’r Canghellor na’r Prif Weinidog yn aros yn eu swyddi.”